Datrys dirgelwch Llong Ganoloesol Casnewydd?

  • Cyhoeddwyd
Canfod y llong ei chanfod yn 2002
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2002 y daethpwyd o hyd i'r llong o'r bymthegfed ganrif

Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu mai o Wlad y Basg y daeth llong ganoloesol Casnewydd.

Daethpwyd o hyd i'r llong o'r bymthegfed ganrif oherwydd gwaith cloddio ar safle er mwyn gosod sylfeini Canolfan Gelfyddydol yn y ddinas yn 2002.

Mae arbenigwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn cydweithio â Sefydliad Arkeolan Irun, Gipuzkoa, Gwlad y Basg.

Ac mae'r wybodaeth newydd yn cyfeirio at adeiladau canoloesol yn nhiriogaethau Arabia a Navarra.

'Sbaen'

Dywedodd yr Athro Cyswllt Nigel Nayling o'r Drindod Dewi Sant sy' wedi bod yn ymchwilio gyda Josué Susperregui o Sefydliad Arkeolan Irun: "Efallai bod dirgelwch tarddiad Llong Casnewydd wedi ei ddatrys o'r diwedd.

"Roedd eitemau gafodd eu darganfod ar y cychwyn yn awgrymu cysylltiadau â Sbaen ond mae datblygiadau diweddar dyddio cylchoedd coed wedi arwain at y dystiolaeth wyddonol gyntaf.

"Mae'r canlyniadau'n awgrymu'n gryf bod y llong wedi ei hadeiladu'n wreiddiol yng Ngwlad y Basg lle roedd traddodiad hir o adeiladu llongau pren.

"Y gred ers tro yw bod tarddiad Basgaidd yn bosibl ac yn 2006 awgrymodd Xabier Agote, Llywydd y Gymdeithas Albaola sy'n hyrwyddo ymchwil i dreftadaeth forwrol Gwlad y Basg, y dylai'r gwyddonwyr gydweithio.

"Ofer fu'r ymdrechion cychwynnol i ddyddio'r llong ond daeth y canlyniadau newydd hyn i law yn sgil rhaglenni ymchwil sy'n samplu'r llong ei hun ynghyd ag adeiladau mwy hanesyddol ..."

'Atgyfnerthu'

Dywedodd y byddai'r canfyddiadau'n hwb i'r ymdrechion i sicrhau cydweithio agosach rhwng archeolegwyr, haneswyr a gwyddonwyr yng Nghymru a Gwlad y Basg.

Dywedodd yr Aelod Cabinet yn gyfrifol am Hamdden a Diwylliant ar gyngor y ddinas, y Cynghorydd Debbie Wilcox, fod y wybodaeth ddiweddaraf yn ddefnyddiol iawn.

"Mae'n ymddangos y gall fod un o ddirgelion ei hanes wedi ei ddatrys ac mae'r newyddion hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd rhyngwladol y llong ..."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol