Sensitifrwydd a sawl cur pen
- Cyhoeddwyd
Pan fydd RWE npower, braich Brydeinig cwmni rhyngwladol RWE, yn agor Pwerdy Penfro yn swyddogol ganol dydd, mi fydd uwch-reolwyr o'i bencadlys yn yr Almaen a gweinidogion llywodraeth Prydain yn canmol technoleg, buddsoddiad a maint y pwerdy.
Mi fydd yn defnyddio nwy, ac ar gost o biliwn o bunnau, yn cyfrannu dros 2000 megawat o bŵer i'r Grid Cenedlaethol. Gorsaf fwyaf o'i bath yn Ewrop, ac ail yn unig o ran maint i bwerdy glo Drax yng ngogledd Lloegr yn ôl DECC, Adran Ynni Whitehall.
Bydd canmol hefyd bod tua 2,000 o weithwyr wedi'u cyflogi yn ystod y pedair blynedd o adeiladu, ac mae cael y pwerdy yn ne Sir Benfro yn gyfwerth â £10 miliwn i'r economi lleol yn ôl RWE. Ond 100 sy'n cael eu cyflogi'n llawn amser, roedd 300 yn yr hen bwerdy a oedd ar yr un safle.
Tasg anferthol
Mae'r dasg o ddod â nwy a phŵer i'r safle wedi bod yn anferthol. Ac ond yn bosibl gan fod safle nwy hylifol LNG wedi ei agor yn South Hook. Yn sgil hynny mae RWE wedi pibellu nwy o dan aber y Cleddau, er mwyn eu galluogi i ddefnyddio safle yr oeddent ei berchen eisoes.
Un gŵyn a fu yn lleol oedd bod technoleg "combined cycle" i droi tyrbinau - 5 yn yr achos yma, 400 megawat (MW) yr un - yn hytrach na defnyddio'r holl wres gwastraff sy'n dod o gynhyrchu pŵer, ar gyfer ei addasu'n drydan.
Yn ôl RWE eu hunain, 60% effeithiol fydd y pwerdy newydd - gwell o lawer na hen bwerdai glo, olew a nwy Prydain, ond dal yn wastraffus medd amgylcheddwyr.
Mae South Hook rwan yn ystyried holi am ganiatâd i adeiladu pwerdy newydd ar eu safle hwythau - o bosib o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Ond defnyddio dŵr afonydd y Cleddau i oeri tyrbinau sydd wedi cythruddo amgylcheddwyr fel Cyfeillion y Ddaear yn bennaf.
Wedi ymgyrch hir, fe wrandawodd y Comisiwn Ewropeaidd, ac mae'u hymchwiliad i'r defnydd o ddŵr yr aber ag effaith negyddol bosibl ar safle cadwraeth arbennig, yn parhau am fis neu ddau arall yn ôl llefarydd y Comisiwn yng Nghaerdydd, David Hughes.
8 gradd selsiws
Cynhesu dŵr hyd at 8 gradd selsiws sy'n cael ei effeithio gan lanw a thrai uchel ydy'r cur pen arall. Ar sail ofnau am fywyd morol, roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn annog pwyll cyn adeiladu'r pwerdy, ag ofnau y gallai Llywodraeth Cymru gael ei herlyn yn gyfreithiol petai 'na niwed amgylcheddol yn y dyfodol. Anwybyddwyd hynny, ac fe roddwyd trwydded amgylcheddol gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Gyda'r pwerdy yn weithredol ac i'w agor yn swyddogol , mae'n destun peth embaras bod lot fawr o ewyn gwyn wedi ei weld ar hyd y glannau ers Gorffennaf gan bobl leol, a'u bod wedi cwyno wrth yr asiantaeth.
Yn ôl datganiad yr asiantaeth, does dim angen pryderu gan mai algae a phlancton sy'n achosi'r ewyn yn y dŵr, ac nid cemegau o'r pwerdy.
Cydsynio mae swyddogion RWE, ond mi fydden nhw yn gweithredu er mwyn lleihau faint o ewyn sydd ar draethau a chreigiau adeg llanw isel - os dim ond am estheteg yr ardal meddir.
A sensitifrwydd hefyd fwy na thebyg.