Cymorth o £3.4m i helpu pobl ifanc gael gwaith

  • Cyhoeddwyd
Chris StorerFfynhonnell y llun, Cronfa Loteri Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Un sydd wedi manteisio ar gymorth i gael cymwysterau newydd a swydd yw Chris Storer

Mae rhaglen newydd, gwerth £3.4 miliwn, yn gobeithio helpu pobl ifanc sy'n gadael gofal a phobl ifanc sy'n troseddu yng Nghymru i gael swyddi neu hyfforddiant pellach.

Mae ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru'n parhau'n uchel iawn ac yn uwch na'r cyfartaledd yn y DU.

Mae rhaglen Ar y Blaen, sy'n cael ei lansio ddydd Mawrth, wedi cael cefnogaeth ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru.

Y nod yw annog rhai sy'n gadael gofal a throseddwyr ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, i ymgymryd â lleoliad gwaith chwe mis a chael cefnogaeth ariannol.

Bydd hyn, yn ôl y fenter, yn gwella cyfleoedd y bobl ifanc o symud ymlaen at gyflogaeth gynaliadwy neu hyfforddiant pellach trwy gynyddu eu cyflogadwyedd.

'Effaith negyddol'

Gyda diweithdra ymysg pobl ifanc yn y DU yn dal dros 1 miliwn, dywedodd Jeff Cuthbert, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau Llywodraeth Cymru, fod rhaglenni fel Ar y Blaen yn hanfodol o ran annog mwy o bobl ifanc fregus i ymwneud â'r gwaith.

"Mae nifer y bobl ifanc bregus 16-18 oed nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn bwysig i Lywodraeth Cymru.

"Ar gyfer rhai o'r bobl ifanc hyn, mae'r amser y maen nhw'n ei dreulio y tu allan i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn cael effaith negyddol sylweddol ar eu bywydau yn y dyfodol - gan effeithio ar eu gallu i gystadlu am swyddi ac ennill bywoliaeth dda, yn ogystal â'u lefelau iechyd, cymhelliad a hunan-barch. Yn ei dro mae hyn yn cael effaith arnom ni i gyd.

"Trwy'r rhaglen yma byddwn yn helpu rhai o'n pobl ifanc fwyaf diamddiffyn i gael mynediad i gyflogaeth yng Nghymru."

Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau proses gofrestru ar-lein erbyn Rhagfyr 12, ac mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau llawn erbyn Chwefror 21, 2013.

Gellir cael mwy o wybodaeth drwy ffonio 0300 123 0735.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol