Cynllun i adfer gwarchodfa'r gweilch yng Nghors Dyfi

  • Cyhoeddwyd
Gwalch y PysgodFfynhonnell y llun, Other

Mae gwarchodfa natur lle mae gweilch yn nythu wedi ennill grant loteri o £928,000.

Bydd yr arian ar gyfer prosiect Gweilch Dyfi ger Machynlleth ym Mhowys yn cael ei wario ar arsyllfa newydd a nifer o gamerâu i wylio'r gweilch.

Bydd pedwar swydd newydd yn cael eu creu yng Nghors Dyfi yn sgil y cynllun gan gynnwys swyddog cadwraeth newydd i reoli tîm o 100 o wirfoddolwyr.

Y nod yw cynyddu nifer y gwirfoddolwyr i 250.

Bydd swyddog addysg llawn amser, swyddog cadwraeth a gweinyddwr rhan amser hefyd yn cael eu cyflogi.

Arsyllfa newydd

Mae'r gweilch sy'n dychwelyd i'r warchodfa'n flynyddol o Affrica wedi ymddangos ar raglen y BBC Springwatch.

Mae Cors Dyfi yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn.

Daw'r arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd prif weithredwr yr ymddiriedolaeth, Estelle Bailey: "Rydym ar ben ein digon i gael y cyfle i ddatblygu'r safle a sicrhau ei ddyfodol."

Dywedodd Ms Bailey y byddai'r arian yn cael ei wario ar adfer isadeiledd Cors Dyfi gan gynnwys llwybrau, caban a chuddfan.

Bydd yr arsyllfa newydd yn galluogi pobl i wylio aber Dyfi gan gynnwys nyth y gweilch.

Ac fe fydd yr arian yn galluogi'r safle i aros ar agor i ymwelwyr drwy'r flwyddyn yn hytrach na'r drefn bresennol rhwng mis Mawrth a mis Medi.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol