Gweld cynlluniau £55m i drawsnewid hen safle ffair yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Llun cyfrifiadurol o sut y bydd Ocean Plaza'n edrych pan fydd wedi ei gwblhauFfynhonnell y llun, Scarborough Development Group
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfle i'r cyhoedd leisio barn ar y cynlluniau ar gyfer Y Rhyl

Bydd cynlluniau i drawsnewid hen safle ffair yn Sir Ddinbych, gwerth £55 miliwn, yn cael eu harddangos i'r cyhoedd.

Bydd datblygiad Ocean Plaza yn y Rhyl yn cynnwys gwesty, tafarn a nifer o gartrefi.

Cafodd y safle ei brynu gan y Scarborough Development Group yn 2010 wedi i'r perchnogion blaenorol fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan olygu oedi i'r cynllun.

Bydd y cynlluniau yn cael eu harddangos yn Neuadd y Dref Y Rhyl ddydd Iau a dydd Gwener, ac fe fydd cyfle i'r cyhoedd leisio'u barn arnyn nhw.

'Diflino'

Dywedodd cyfarwyddwr datblygu Scarborough, Lee Savage: "Rydym wedi gweithio'n ddiflino ar hwn, ac mae pawb yn gyffrous o gyrraedd y rhan yma o'r datblygiad.

"Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn apelio i'r cyhoedd, ac y bydd ymateb positif gan bobl Y Rhyl.

"Bydd y cynllun yn dod â bywyd newydd i'r rhan yma o'r dref, gan greu cannoedd o swyddi newydd ac adfywio gorllewin Y Rhyl."

Cafodd ffair Marine Lake ei ddymchwel yn 2007 er mwyn creu lle i'r datblygiad, ond y llynedd dywedodd y perchnogion bod y cynllun yn cael ei atal am y tro oherwydd yr hinsawdd economaidd anodd.

Yn gynharach eleni, dywedodd cynghorwyr y dref bod y safle'n "ddolur llygad" a'u bod yn pryderu y byddai ymwelwyr yn rhoi'r gorau i ddod i'r dref tan fod y llanast wedi ei glirio.

Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 3pm a 8pm ddydd Iau a rhwng 8am ac 1pm ddydd Gwener.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol