Cysylltiadau Cymreig llun enwog y Mona Lisa

  • Cyhoeddwyd
Mona Lisa Leonardo Da Vinci (chwith) a'r Isleworth Mona LisaFfynhonnell y llun, AFP/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mona Lisa Leonardo Da Vinci (chwith) a'r Isleworth Mona Lisa

Mae Pennaeth Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ymhlith yr arbenigwyr celf wnaeth dadorchuddio darlun y mae llawer yn credu sydd yn fersiwn gynharach o'r Mona Lisa ddydd Iau.

Cafodd Robert Meyrick ei wahodd i siarad yn y dadorchuddiad yn Genefa fel arbenigwr byd ar Hugh Blaker, a brynodd y llun yn 1913 ac yn adnabyddus yng Nghymru fel ymgynghorydd lluniau i'r chwiorydd Davies Gregynog.

Cafodd y darlun, a elwir yr Isleworth Mona Lisa, ei beintio tua 20 mlynedd cyn y portread enwog sydd yn y Louvre, mae ychydig yn fwy ac wedi bod yn destun dadl dros ei ddilysrwydd ers blynyddoedd.

Os yw'r Isleworth Mona Lisa yn troi allan i fod yn ddilys, golyga hyn fod Leonardo da Vinci wedi paentio dwy fersiwn o'r Mona Lisa - fersiwn gynharach a'r fersiwn ddiweddarach eiconig sy'n hongian yn y Louvre.

Dau gynfas

Dywedodd Robert Meyrick: "O'r cychwyn cyntaf, roedd y casglwr celf Blaker yn credu ei fod wedi darganfod fersiwn cynharach o'r Mona Lisa, ond nid oedd ganddo'r wyddoniaeth i brofi hynny.

"Dadleuodd fod Mona Lisa (La Gioconda) yn wreiddiol ar ddau gynfas ar wahân, ond ar ôl i un fynd ar goll, defnyddiwyd y ddau enw ar y llun yn y Louvre.

"Yn wahanol i fersiwn y Louvre, mae cyfansoddiad yr Isleworth Mona Lisa yn adlewyrchu yn union luniad a wnaeth Raphael o'r peintiad yn stiwdio Leonardo - sydd bellach yn y Louvre."

Ffynhonnell y llun, National Museum Wales
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y darlun ei drosglwyddo i fenyw oedd yn byw yng Ngregynog fel cydymaith i'r chwiorydd Davies.

Wedi i Blaker farw yn 1936, cafodd y darlun ei drosglwyddo i'w chwaer Jane a oedd yn byw yng Ngregynog fel cydymaith i'r chwiorydd Davies.

Banc

Yn dilyn ei marwolaeth yn 1947, cafodd ei werthu yn Llundain i'r casglwr Americanaidd, Henry Pulitzer, a wnaeth, yn ei dro ei adael i'w gariad.

Ar ei marwolaeth, cafodd ei brynu gan gonsortiwm o unigolion dienw o'r Swistir sydd wedi ei gadw mewn banc yn y wlad honno ers 40 mlynedd.

Cafodd y digwyddiad ei fynychu gan oddeutu 90 o aelodau o'r wasg ac ysgolheigion Leonardo, a chafodd ei ddadorchuddio yn swyddogol gan bencampwr gwyddbwyll y byd o Rwsia, Anatoly Karpov, sydd hefyd yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth y Mona Lisa.

Bydd yr ymchwil yn cael ei gyflwyno mewn llyfr 320-tudalen newydd o'r enw Mona Lisa - Leonardo's Earlier Version, a fydd hefyd yn cael ei lansio ar y diwrnod.

Ymchwil Robert Meyrick ar Blaker flwyddyn ddiwethaf a wnaeth ddarparu'r dystiolaeth a oedd ei angen i ddilysu darlun gan Amedeo Modigliani.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol