Llifogydd: Teuluoedd Ceredigion yn mynd adre

  • Cyhoeddwyd
Flooding in TalybontFfynhonnell y llun, Sam Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i bwasanaethau brys achub nifer o bobl o'u cartrefi yn Nhalybont yn llifogydd mis Mehefin

Mae rhai o'r bobl a gafodd eu gorfodi o'u cartrefi yng Ngheredigion wedi'r llifogydd difrifol ym mis Mehefin wedi cael dychwelyd adre'.

Dywed Cyngor Ceredigion bod 15 o deuluoedd a adawodd eu cartrefi yng ngogledd y sir wedi symud yn ôl i mewn.

Fe gafodd rhai o'r trigolion rybudd y byddai'n rhaid iddyn nhw adael eu tai am hyd at chwe mis, wedi i werth mis o law ddisgyn o fewn 24 awr ar Fehefin 8 a 9.

Er hynny, mae 14 o deuluoedd aeth at y cyngor am gymorth yn dal i orfod byw yn rhywle arall am y tro.

Roedd tref Aberystwyth a phentrefi cyfagos Talybont, Dôl-y-bont, Capel Bangor, Penrhyn-coch a Llandre ymysg y lleoedd a ddioddefodd adeg llifogydd Mehefin, ynghyd â rhai meysydd carafannau gerllaw.

Cyfri'r gost

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddioddefodd rhai meysydd carafannau a phentrefi yr ardal oherwydd y llifogydd

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Hyd y gwyddom, yn seiliedig ar ymweliadau gan swyddogion yr awdurdod, mae 15 o deuluoedd wedi dychwelyd i'w cartrefi.

"O'r teuluoedd ddaeth at y cyngor i ofyn am gymorth, mae wyth wedi cael lle i fyw mewn eiddo preifat neu gynlluniau llety dros dro gan gymdeithasau tai.

"Mae chwech arall wedi dod o hyd i lety dros dro eu hunain."

Mae Cyngor Ceredigion yn dal i gyfri'r gost wedi'r llifogydd.

Gwariodd yr awdurdod £300,000 ar y gwaith glanhau wedi'r llanast ac i drwsio ffyrdd a phontydd.

Ond dywedon nhw ym mis Awst bod disgwyl i'r bil terfynol godi i dros £400,000.

Cafodd £105,000 ei gasglu drwy apêl gan arweinydd y cyngor, ac mae 130 o bobl a ddioddefodd oherwydd y llifogydd wedi cael taliadau i gynorthwyo gyda'u costau.

Yn y cyfamser fe gafodd rhai busnesau, yn enwedig rhai ym myd twristiaeth, gynnig cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol