April: Arestio dyn 46 oed ger Machynlleth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n chwilio am y ferch bump oed April Jones yn ardal Machynlleth wedi arestio dyn 46 oed.
Yn ôl pobl leol ei enw yw Mark Bridger, sy'n byw yng Nghraigfryn ym Machynlleth. Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa yn Aberystwyth ac yn cael ei holi nos Fawrth.
Cafodd ei arestio ar yr A487 i'r gogledd o'r dre' brynhawn Mawrth ac fe gafodd y ffordd rhwng Machynlleth a Cross Foxes, pellter o 12 milltir, ei chau i'r ddau gyfeiriad.
'Dryllio'
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd teulu April: "Cafodd ein bywydau eu dryllio pan gafodd ein merch brydferth April ei chymryd oddi arnom.
"Mae ein bywydau wedi stopio.
"Rydym yn erfyn ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu, helpwch ni i ddod â'n merch hardd nôl adref".
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Reg Bevan eu bod yn gobeitho fod y dyn a arestiwyd yn gallu eu cynorthwyo i ddod o hyd i April Jones sy'n parhau ar goll.
"Rydyn ni'n parhau i chwilio am April gyda'r gobaith ei bod hi'n dal yn fyw," meddai.
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i'r cerbyd yr oedden nhw'n chwilio amdano.
'Diolch i bawb'
"Doedd e ddim yn y man lle cafodd y dyn ei arestio," meddai'r Ditectif Uwcharolygydd Bevan.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Ian John mai'r flaenoriaeth oedd dod o hyd i April.
"Rwy' eisiau cymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu."
Nos Fawrth gofynnodd i'r heddlu i bobl roi'r gorau i chwilio am gyfnod gan eu bod yn defnyddio offer sy'n synhwyro gwres corff.
Cyrhaeddodd hofrennydd Sea King o Ganolfan yr Awyrlu, Chivenor yn Nyfnaint, un â chamera is-goch arbennig.
Roedd y ferch yn chwarae gyda ffrindiau ger ei chartref ar Stad Bryn y Gog ym Machynlleth ac fe'i gwelwyd yn mynd i mewn i fan tua 7:00pm nos Lun.
Ar y pryd roedd April yn gwisgo cot borffor at ei phen-gliniau gyda ffwr llwyd o amgylch y cwfl, crys ysgol gwyn a throwsus du.
Mae'r heddlu wedi sefydlu llinell ffôn arbennig ar gyfer gwybodaeth allai fod o gymorth yn yr ymchwiliad, 0300 2000 333.
'Sawl posibilrwydd'
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fore Mawrth: "Roedd plentyn ifanc arall wedi gweld April yn mynd i mewn i fan lliw golau neu gerbyd maint tebyg i fan.
"Tra bod manylion yr hyn ddigwyddodd yn aneglur, mae'n ymddangos fod y sawl gipiodd hi wedi gadael y safle a gyrru i ffwrdd gydag April.
"Mae nifer o swyddogion heddlu a thimau arbenigol wedi gweithio drwy'r nos, yn chwilio yn fanwl, ac mae sawl posibilrwydd yn cael ei ystyried."
Ychwanegodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Powell: "Cafodd April ei gweld yn chwarae ar feic ger ei chartref, ac fe'i gwelwyd yn mynd i mewn i'r hyn yr ydym yn credu oedd yn fan lliw golau, ac fe yrrodd i ffwrdd."
Dywedodd yr Arolygydd Kevin Davies fod timau o gŵn yr heddlu ac o'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ymuno yn y chwilio a bod mannau gwirio cerbydau wedi eu sefydlu ar y ffyrdd i mewn ac allan o Fachynlleth.
"Mae sôn wedi bod am fan lwyd, ac rydym yn ystyried sawl trywydd arall.
"Rydym yn chwilio'r ardal yn drylwyr. Mae popeth all gael ei wneud yn cael ei wneud.
"Yn amlwg, mae'r teulu yn bryderus iawn. Rydym yn ceisio'u hysbysu am bopeth, ac mae gennym swyddog gyda nhw."
'Tref fechan'
Roedd cynghorydd tref Machynlleth, Michael Williams, yn un o'r rhai fu'n helpu gyda'r chwilio a dywedodd fod y bobl leol wedi eu syfrdanu.
"Rwyf wedi byw yma ar hyd f'oes ac erioed wedi clywed am rywbeth fel hyn yn digwydd o'r blaen," meddai.
"Gobeithio i'r nefoedd y down ni o hyd i'r ferch fach yma cyn hir.
"Mae'n dangos mewn tref fechan fel Machynlleth, pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd mae pawb allan yn chwilio."
Yn y cyfamser, mae swyddogion cyswllt yr heddlu yn rhoi cymorth i'r teulu wrth i'r ymchwiliad barhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012