April: Y chwilio'n parhau
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu a'r gwasanaethau brys eraill yn parhau i chwilio am ferch fach bump oed, April Jones, yn ardal Machynlleth.
Bellach mae swyddogion o Heddluoedd De a Gogledd Cymru yn cynorthwyo Heddlu Dyfed Powys wrth chwilio ar hyd Afon Dyfi ar drydydd diwrnod yr ymgyrch i chwilio amdani.
Mewn cynhadledd newyddion fore Mercher, dywedodd yr heddlu bod 40 o swyddogion arbenigol gyda chŵn, ynghyd â thimau achub mynydd o Aberdyfi ac Aberhonddu, wedi bod yn chwilio ardal Machynlleth dros nos.
Maen nhw wedi diolch i'r cyhoedd am eu cymorth hyd yma, ond hefyd yn gofyn nawr i'r cyhoedd gadw draw gan fod yr amodau yn "heriol iawn", a gadael y gwaith i'r arbenigwyr.
Roedd April Jones yn chwarae gyda ffrindiau ger ei chartref pan aeth i mewn i gerbyd lliw golau am tua 7pm nos Lun.
Mae'r heddlu wedi bod yn holi dyn 46 oed, a gafodd ei enwi'n lleol fel Mark Bridger, wedi iddo gael ei arestio ddydd Mawrth.
Dywedodd teulu April eu bod eu bywydau "wedi eu dryllio" gan ddiflaniad ei merch.
Mewn datganiad, fe gafodd April ei disgrifio fel "merch fach brydferth" gyda'r teulu yn ychwanegu: "Plis os yw'n merch fach gyda chi, gadewch iddi hi ddod adre."
'Unigolyn o bwys'
Bu aelodau o Heddlu'r Gogledd yn cynorthwyo gyda'r chwilio dros nos, ac fe ddaeth wyth o swyddogion chwilio arbenigol o Heddlu'r De yn ogystal.
Mae Gwylwyr y Glannau o Aberystwyth, Borth, Aberdyfi a Harlech ynghyd â thimau bâd achub yr RNLI o Borth ac Aberdyfi hefyd i gynorthwyo.
Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau o Aberdaugleddau eu bod yn disgwyl parhau gyda'r chwilio ar hyd Afon Dyfi ddydd Mercher, ac y byddai swyddogion o Gaergybi yn cynorthwyo.
Mae'r dyn 46 oed a gafodd ei arestio yn cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Aberystwyth. Cafodd ei arestio am tua 4pm ddydd Mawrth ar y brif ffordd allan o Fachynlleth, ac mae'r ffordd wedi ei chau cyn belled â Cross Foxes ger Dolgellau.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn byw yn lleol, a'u bod wedi bod yn chwilio amdano'n benodol.
Cafodd ei ddisgrifio gan y Ditectif Uwch-Arolygydd Reg Bevan fel "unigolyn o bwys", a bod cerbyd "oedd yn debyg i'r disgrifiad a roddwyd gan blant" yn eiddo i'r dyn ac wedi ei gipio gan yr heddlu.
Anarferol
Ychwanegodd yr Uwch-Arolygydd Ian John bod y plismyn fu'n chwilio drwy'r nos yn rhai arbenigol, gan ychwanegu:
"Mae'r eitha' anarferol i ni weithio drwy'r nos fel hyn, ond yn amlwg rydym yn chwilio am ferch fach bump oed felly mae'n rhaid manteisio ar bob cyfle i ddod â hi adre."
Cadarnhaodd bod y dyn a arestiwyd yn berchen ar gerbyd Land Rover gyriant ochr chwith, ond ychwanegodd na ddylid cymryd yn ganiatàol mai dyna'r cerbyd yr oedd yr heddlu'n chwilio amdano.
"Yn sicr," meddai, "roedden ni'n chwilio am gerbyd gyda disgrifiad tebyg, ac maer cerbyd o ddiddordeb mawr i ni - felly hefyd y dyn sydd yn y ddalfa."
'Ymateb anhygoel'
Fe gafodd gwirfoddolwyr ac aelodau o'r cyhoedd fu'n cynorthwyo gyda'r chwilio eu canmol am eu hymdrechion, gyda'r heddlu yn dweud bod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel".
Daeth pobl o'r tu allan i'r ardal - gan gynnwys rhai o Fanceinion a de Cymru - i gynorthwyo gyda'r chwilio.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i ffonio rhif ffôn arbennig - 0300 2000 333.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012