Y Cofnod: Gwelliant Bethan Jenkins yn methu
- Cyhoeddwyd
Mae gwelliant i'r mesur sy'n diffinio gwaith y Cynulliad mewn perthynas â dwyieithrwydd ar sylfaen statudol wedi methu.
Roedd gwelliant Bethan Jenkins AC o Blaid Cymru yn ymwneud â chyfieithu Trafodion y Cynulliad gyda 17 yn pleidleisio o blaid, 36 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
Diben y mesur yw "diogelu'n gyfreithiol ymrwymiad y Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad i fod yn sefydliad dwyieithog sydd â'r Saesneg a'r Gymraeg yn ieithoedd swyddogol".
Cafodd y mesur, a gynigiwyd gan Rhodri Glyn Thomas AC yn ei rôl fel Comisiynydd y Cynulliad, ei gynnig gan nad yw'r Cynulliad na'r Comisiwn yn dod o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg 2011.
Dywedodd Alun Ffred Jones AC fod gwelliant Ms Jenkins yn cydnabod dilysrwydd y ddwy iaiith yng ngwaith y Cynulliad mewn dau faes penodol - cynnwys deddfau'r Cynulliad a chofnod o graffu gweinidogion.
'Cost'
Roedd yn bwysig fod dwyieithrwydd yn cael ei gydnabod, meddai, ond roedd yn cydnabod na ellid cyfiawnhau "cost ddrudfawr" cyfieithu.
Dywedodd Llyr Huws Gruffydd y dylai'r Cynulliad weithredu fel "corff cwbl ddwyieithog" a bod y gwelliant yn bwysig yn symbolaidd.
Roedd e fel nifer o aelodau eraill, meddai, am allu trafod a gweld cofnod o'r drafodaeth yn ei famiaith.
Pryder Elinor Parrot ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol oedd na fyddai'r Cynulliad yn gosod esiampl i sefydliadau eraill yng Nghymru.
Roedd cynlluniau iaith, meddai, yn mynnu bod sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu'n ddwyieithog.
Os na fyddai'r Cynulliad yn dilyn hynny yng nghyd-destun ei waith a chofnodion mewnol, fe fyddai hynny'n "ddauwynebog".
Cydymdeimlo
Dywedodd Sue Davies ar ran y Ceidwadwyr ei bod yn cydymdeimlo â bwriad Ms Jenkins ond yn bryderus am gost cyfieithu.
"Chawson ni erioed wybod amcangyfri o'r gost," meddai.
Mynnodd Cyn Lywydd y Cynulliad, Dafydd Ellis Thomas, ei fod yn cefnogi'r egwyddor ond bod modd cynnwys "y glo mân manwl" o fewn cyllun iaith.
"Y ddofgen fyw sy'n bwysig nid y cofnod marw," meddai.
Wrth ymateb ar ran y comisiwn, dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC y byddai cost trosi rhwng £400,000 a £600,000.
"Beth sy'n bwysig," meddai, "yw cofnod o wybodaeth fydd yn cael ei ddefnyddio."
'Heb ei wireddu'
Cyn y trafod yn y Cynulliad dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Yn y nawdegau un o addewidion datganoli oedd creu llais newydd i Gymru gyda sefydliad a fyddai â grym dros faterion polisi domestig, ond nid hynny yn unig, byddai'n creu math newydd o wleidyddiaeth.
"Yn anffodus, nid ydy'r addewid hwnnw wedi'i wireddu'n llawn. Rydyn ni wedi gweld mai defnydd isel sydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad.
"Gobeithiwn fod ein gwleidyddion yn deall bod disgwyliadau arnyn nhw i roi cydraddoldeb i'r ddwy iaith ac i arwain y ffordd i'r holl sefydliadau eraill yng Nghymru."
Mae'r mesur ar hyn o bryd yng Nghyfnod 3 proses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Mae'r cyfnod hwn yn galluogi Aelodau'r Cynulliad i gynnig gwelliannau a phleidleisio ar ba rai gaiff eu hychwanegu at y mesur.
Bydd yr Aelodau wedyn yn pleidleisio ar basio'r mesur wedi'i ddiwygio, sy'n cwblhau Cyfnod 4.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd22 Mai 2012
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011