Gareth Glyn i roi'r gorau i gyflwyno'r Post Prynhawn
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Gareth Glyn yn gadael rhaglen Post Prynhawn wedi 34 blynedd.
Mae wedi cyflwyno'r rhaglen newyddion dyddiol ers y rhaglen gyntaf ar Dachwedd 6 1978.
Yn ogystal â'i gyflwyno chwim a'i gwestiynu clir, mae hefyd yn un o gyfansoddwyr mwya' blaenllaw'r wlad.
Fe fydd yn rhoi'r gorau i gyflwyno'r rhaglen yn y Flwyddyn Newydd a dywedodd y byddai'n troi ei sylw at ei waith fel cyfansoddwr.
"Fy ngobaith i yn y blynyddoedd nesa' ydi cyfansoddi opera Gymraeg," meddai.
"Mi fydda i yn cyflwyno rhaglen tra-gwahanol i'r Post Prynhawn ar Radio Cymru rhwng Ebrill a Mehefin, sef rhaglen fore Sul ar gerddoriaeth glasurol - fy newis fy hun o gerddoriaeth.
Newidiadau
"Mae Post Prynhawn ei hun wedi newid ers i mi ddechrau yn 1978 - yr adeg honno teipiaduron oedd yn y swyddfa a nid rhai trydan chwaith.
"Erbyn hyn mae popeth yn llythrennol ar flaenau'ch bysedd.
"Rydw i wedi gweithio hefo pobol dda dros y blynyddoedd, ac mae yna lawer o bobol wedi mynd a dod yn rhan o'r tîm.
"Mae wedi bod yn gyfnod hapus iawn yn fy ngyrfa."
Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, fod ei gyfraniad i ddarlledu a newyddiaduraeth Gymraeg "yn aruthrol a phwysig".
"Mae o wedi bod yn rhan annatod o fywydau gwrandawyr Radio Cymru ers i'r orsaf ddechrau.
'Mae cyflwyno rhaglen ddyddiol fel Post Prynhawn yn heriol a llwyddodd i wneud hynny gyda phroffesiynoldeb llwyr am gynifer o flynyddoedd.
"Rydym yn diolch iddo am ei ymroddiad i'r rhaglen ac i'r orsaf ac yn dymuno'n dda iddo yn y dyfodol.
"Rydw i hefyd yn falch iawn y byddwn yn dal i glywed llais Gareth Glyn ar yr orsaf yn y dyfodol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran y BBC y byddai cyhoeddiad am gyflwynydd newydd y rhaglen yn fuan.
'Bedyddio'r rhaglen'
Cafodd un o weithiau Gareth, Nimrod, ei berfformio yn ystod Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd.
Y llynedd cafodd cryno ddisg ddwbl ei chyhoeddi i gyd-fynd â'i ben-blwydd yn 60 oed oedd yn cynnwys detholiad o'i waith cerddorfaol.
Wyre Thomas ym Mangor oedd yn gyfrifol am y rhaglen gyntaf ac ef hefyd a fedyddiodd y rhaglen newydd â'r enw Post Prynhawn.
Cafodd y rhaglen ei chomisiynu wrth i'r BBC benderfynu y byddai dau wasanaeth radio cenedlaethol yn cael eu sefydlu yng Nghymru o ganlyniad i'r cynnydd yn y galw am ddarlledu Cymraeg a'r holl brotestiadau drwy'r 70au.
Y dasg oedd llunio rhaglenni fyddai'n apelio at ystod eang o bobol a dyma oedd y tu ôl i'r penderfyniad i sefydlu'r Post Prynhawn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012