Newidiadau Radio Cymru i'w clywed ar y donfedd
- Cyhoeddwyd
Bydd gwrandawyr BBC Radio Cymru yn clywed newid ar y donfedd ddydd Llun wrth i'r amserlen newydd gychwyn.
Er bod rhai newidiadau wedi eu clywed dros y penwythnos, o ddydd Llun ymlaen bydd rhaglenni newydd a chyflwynwyr newydd.
Mae nifer o leisiau cyfarwydd yr orsaf hefyd yn newid eu hamser darlledu.
Dywedodd Golygydd Radio Cymru, Lowri Davies, bod hyn yn "gyfnod cyffrous".
Y prif newidiadau yw croesawu'r newyddiadurwraig Iola Wyn i gyflwyno ei rhaglen ei hun bob dydd rhwng 10.30 a 12.30pm o Gaerfyrddin.
'Cwmni pobl'
Yn wyneb a llais cyfarwydd fel cyn-gyflwynwraig Ffermio ar S4C, a newyddiadurwraig ar Radio Cymru, mae Iola'n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw gyda'i theulu yn Sanclêr.
"Dwi wrth fy modd yng nghanol pobl a bydd darlledu yng nghanol fy nghymuned fy hun yn gyffrous iawn" meddai.
"Rhaglen y bobl fydd hi, gwahanol gymeriadau, gwahanol straeon o bob cwr o Gymru.
"Fe fyddaf yn cael teithio ar hyd a lled Cymru pan fyddai'n cael mynd allan i gwrdd â phobl ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at hynny.
"Amrywiol westeion, arbenigwyr yn eu meysydd fel garddio, bwyd, chwaraeon, meddygaeth a milfeddygaeth.
"Fe fyddai'n cyfarfod yr arbenigwyr yn eu hardaloedd o dro i dro."
Bydd Nia Roberts yn darlledu rhwng 2.30pm a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, gyda Tudur Owen yn cyflwyno ar brynhawn Gwener.
Mae Geraint Lloyd yn darlledu rhwng 10pm a hanner nos o Aberystwyth.
Bydd Radio Cymru yn parhau i gychwyn darlledu am 5.30am gydag ail-gyfle i glywed rhai o raglenni cerddorol yr orsaf gan gynnwys Taro Nodyn, Hywel Gwynfryn, Ar Eich Cais gyda Dai Jones a Richard Rees.
Bydd Dylan Jones yn dal i Daro'r Post ond bydd yn gwneud hynny rhwng 12.30pm a 2pm.
Rhaglenni amrywiol fydd am 2pm, cyn i Nia Roberts neu Tudur Owen lywio'r orsaf tan y Post Prynhawn sy'n ymestyn tan 6.15pm.
Tan 7pm wedyn bydd cyfle i wrando ar amryiol raglenni, cyn i C2 gychwyn am 7pm gyda phum cyflwynydd gwahanol bob nos yn cyflwyno am deirawr.
Rhaglenni newydd cyffrous
Eglurodd Lowri Davies bod ychydig o newid i'r penwythnosau, gyda Hywel Gwynfryn yn cyflwyno rhaglen estynedig ar fore Sul fydd yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau'r wythnos yn ogystal â pharhau i grwydro Cymru'n darlledu o gymunedau a digwyddiadau ar draws y wlad.
"Am 3pm ddydd Sul, bydd Sesiwn Fach yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth werin ac acwstig yng nghwmni Idris Morris Jones," meddai.
"Fe fydd cyfle i glywed y rhaglen unwaith eto, bob bore Gwener am 5.30am neu drwy fynd i wefan Radio Cymru lle mae cyfle arall i glywed bob un o raglenni'r orsaf drwy'r i-Player.
"Bydd Radio Cymru ar ei newydd-wedd felly'n cynnig rhaglenni newydd cyffrous, yn ogystal â chadw rhai o'r ffefrynnau sydd mor greiddiol i'r gwasanaeth.
"Dwi'n mawr obeithio y byddwch chi'r gwrandawyr - y bobl bwysicaf - yn mwynhau'r arlwy newydd ar gyfer y dyfodol," meddai Ms Davies.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2012