Croesawu arian i wella twnnel

  • Cyhoeddwyd
Twnnel Conwy

Bydd £25 miliwn yn cael ei wario ar wella twnnel Conwy ar yr A55.

Mae'r arian yn rhan o wariant a gyhoeddwyd gan Weinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, yn ei chyllideb ddrafft yr wythnos ddiwethaf, a daeth croeso i'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant.

Nod y cynllun yw gwella diogelwch y twnnel, ond hefyd i wella hyblygrwydd y ffordd pan mae argyfwng yn digwydd yno.

Ymhlith y materion fydd yn cael eu hystyried mae gwella diogelwch tân fel nad oes rhaid cau'r twnnel am hir os oes tân yn digwydd yno, a hefyd gwella goleuo ac awyru.

'Hanfodol'

Dywedodd Mr Sargeant: "Mae'r A55 yn rhan hanfodol o'r rhwydwaith drafnidiaeth yng ngogledd Cymru, ac rwy'n falch bod £25m ychwanegol ar gael i wella'r campwaith peirianyddol yma.

"Mae sicrhau cyfanrwydd yr A55 yn hanfodol i economi gogledd Cymru."

Dathlodd y twnnel ei ben-blwydd yn 20 oed yn ddiweddar.

Bydd cynlluniau manwl nawr yn cael eu paratoi gyda'r bwriad o wneud y gwaith yn ystod 2014/15.

Mae'r arian yn rhan o fuddsoddiad cyfalaf o £175m sy'n cynnwys £65m i drafnidiaeth.

Bydd gweddill yr arian yn mynd tuag at ran o ffordd Blaenau'r Cymoedd - yr A465 - rhwng Brynmawr a Thredegar.