Cyhuddo Mark Bridger o lofruddio April Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo Mark Bridger, 46 oed, o lofruddio April Jones.

Mae e hefyd wedi ei gyhuddo o'i chipio yn ogystal â cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fydd yn ymddangos ger bron ynadon Aberystwyth ddydd Llun.

Cafodd y ferch bum mlwydd oed ei chipio ger ei chartref ar ystad Bryn y Gog ym Machynlleth nos Lun.

Mae timau achub yn dal i chwilio am ei chorff. Drwy gydol y dydd, mae timau arbenigol wedi bod yn defnyddio offer sonar i chwilio'r Afon Dyfi rhwng Borth a Machynlleth.

Dywedodd Iwan Jenkins ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron ei fod wedi adolygu'r dystiolaeth a gasglwyd gan yr heddlu a'i fod yn credu bod digon o dystiolaeth i gyhuddo Mark Bridger.

Chweched diwrnod

Daeth y cyhuddiadau ar chweched diwrnod y chwilio amdani, a dywedodd yr heddlu eu bod yn dal yn benderfynol o ddod o hyd i April.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd April Jones ei chipio nos Lun

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Ian John: "Er gwaetha'r datblygiadau yn yr ymchwiliad, mae ein sylw o hyd ar ddod o hyd i April ac fe fydd y chwilio'n parhau".

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Jackie Roberts, bod eu meddyliau yn parhau gyda theulu April.

Rhoddodd deyrnged hefyd i'r timau achub a'r cannoedd o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn chwilio amdani.

Mae'r heddlu wedi ceisio creu darlun llawn o symudiadau Mark Bridger a'i gerbyd Land Rover glas rhwng 6:30pm ddydd Llun a 3:30pm ddydd Mawrth.

Cafwyd archwiliad fforensig o'r cerbyd, ac mae plismyn hefyd wedi archwilio ffermdy ym mhentref Ceinws lle bu Bridger yn byw yn fwyaf diweddar.

Cronfa

Yn y cyfamser, cafodd cronfa gyhoeddus ei sefydlu ar gyfer teulu a chyfeillion April er mwyn i bobl ar draws y DU ddangos eu cefnogaeth.

Dywedodd Cyngor Tref Machynlleth eu bod wedi sefydlu'r gronfa ar ôl derbyn galwadau o bell ac agos gan bobl oedd am roi arian i April a'i theulu.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i bobl sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio llinell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol