Wythnos o ddathlu diwylliant yn Yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd
Bydd tref yr Wyddgrug yn fwrlwm o weithgaredd diwylliannol yn ystod yr wythnos wrth i Ŵyl Daniel Owen gael ei chynnal.
Dyma'r drydedd flwyddyn i'r dref gynnal y digwyddiad sy'n cael ei ystyried yn "uchafbwynt yng nghalendr gwyliau'r Wyddgrug".
Dechreuodd yr ŵyl ddydd Sadwrn a bydd yn para tan ddydd Sadwrn, Hydref 20.
Bydd cyfres o ddigwyddiadau barddonol a llenyddol yn ogystal â cherddoriaeth, sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau awyr agored.
'Ysbrydoli a synnu'
Dywedodd y trefnwyr: "Yn ogystal â llenyddiaeth a'r celfyddydau mae'r gymuned a threftadaeth yn elfennau blaenllaw."
"Drwy sicrhau rhai o hoelion wyth y byd llenyddol Cymreig ochr yn ochr ag awduron arloesol a'r rheiny sy'n dechrau dod i'r amlwg yn y Saesneg a'r Gymraeg, sylwebyddion ac arbenigwyr, bydd Gŵyl 2012 yn herio, ysbrydoli a synnu cynulleidfaoedd Yr Wyddgrug, gan eu sbarduno i feddwl a dadlau."
Yr awdures, Dr Angharad Price, sy'n cyflwyno Darlith Daniel Owen flynyddol eleni - a hynny am 7:30pm nos Fawrth, Hydref 16, yng Nghapel Bethesda.
Y testun fydd 'Gwen Tomos a'r anifeiliaid - y defnydd o symboliaeth yn y nofel'.
Cafodd Daniel Owen ei eni i deulu cyffredin yn Yr Wyddgrug yn 1863 a daeth yn nofelydd Cymraeg mwya' blaenllaw'r 19eg ganrif.
Mae'r ŵyl wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan gynllun arloesol Cadwyn Clwyd i Sir y Fflint, sydd wedi'i ariannu drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2012
- Cyhoeddwyd7 Awst 2012