Cynllun i atal ysmygu mewn ceir â phlant
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i atal pobl rhag ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant.
Bwriad cynllun Cychwyn Iach yw gwarchod plan rhag effeithiau mwg ail law mewn lle cyfyng.
Bydd gwaharddiad llwyr yn cael ei ystyried, yn dibynnu ar lwyddiant yr ymgyrch tair blynedd.
Ond dywedodd Simon Clark, o'r grŵp lobïo Forest, y byddai gwaharddiad yn rhy ddrud ac yn "mynd gam yn rhy bell ac yn hollol ddiangen".
'Gwenwyno'
Wrth lansio'r ymgyrch dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, y Dr Tony Jewell, fod plant mewn ceir o dan fygythiad neilltuol gan fwg ail law.
"Mae bod ynghanol y cemegau hyn yn golygu bod plant mewn perygl o nifer o afiechydon gan gynnwys Marwolaethau yn y Crud ac asthma," meddai.
"Mae tystiolaeth gref fod lefelau cemegau gwenwynig yn uchel iawn mewn ceir, hyd yn oed pan fydd ffenest ar agor.
"Mae ymgyrch Cychwyn Iach Cymru'n bwriadu codi ymwybyddiaeth fod ysmygu mewn ceir yn beryglus i deithwyr, yn enwedig plant."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod ysmygu mewn ceir yn "gwenwyno" plant ac na fyddai Cymru'n "osgoi" deddfwriaeth bellach.
"Bydd gwahardd ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant yn cael ei ystyried yn ddiweddarach yn ystod y tymor pum mlynedd hwn o Lywodraeth os na fydd lefelau ysmygu yn gostwng yn dilyn yr ymgyrch hwn," meddai.
"Rydym wedi comisiynu ymchwil i fesur lefelau ysmygu mewn ceir ac ymateb y cyhoedd i hynny.
"Byddwn yn ail-edrych ar y mater yn gyson yn ystod yr ymgyrch i werthuso'i lwyddiant."
'Gwarthus'
Ond dywedodd Mr Clark: "Rwy'n anghytuno bod gyrwyr yn gwenwyno plant ond rwy'n cefnogi'r ymgyrch.
"Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig annog rhieni i beidio ag ysmygu mewn ceir lle mae plant bach yn cael eu cludo."
Roedd Mr Clark am i Lywodraeth Cymru addo na fyddan nhw'n gwahardd ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant.
"Rydym o'r farn y byddai hyn yn mynd gam yn rhy bell ac yn hollol ddiangen," meddai.
"Rwy'n credu bod y ffordd mae ysmygwyr yn cael eu trin yn warthus o ystyried bod 10 miliwn o ysmygwyr yn y Deyrnas Unedig sy'n cyfrannu swm anferthol mewn trethi tybaco - mwy na £10 biliwn y flwyddyn.
"Mae'n gynnyrch cyfreithiol ac rwy'n meddwl bod ysmygwyr yn cael eu trin mewn ffordd annheg."
Mae Dr Iolo Doull, Swyddog Iechyd Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yng Nghymru, sydd eisoes wedi galw am wahardd ysmygu mewn ceir yn gyfan gwbl, yn cefnogi'r ymgyrch.
"Mae babanod a phlant sy'n anadlu mwg tybaco yn aml yn fwy tebygol o ddioddef o heintiau ar y frest, heintiau yn y glust, o gael eu derbyn i'r ysbyty gydag asthma, neu farw'n sydyn yn y crud," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran sefydliad moduro'r AA eu bod yn cwestiynu sut y byddai unrhyw waharddiad yn cael ei weithredu.
"Rwy'n credu y byddai'n cael ei weithredu drwy'r teulu," meddai.
"Cyn gynted ag y mae'r teulu yn gosod rheol mae'n hawdd i'r fam ddweud wrth y tad i beidio ag ysmygu yn y car neu i daid ddweud wrth nain ac yn y blaen."
"Dwi ddim yn meddwl y byddai'n un o flaenoriaethau plismon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011