Peiriannau: Gwahardd gwerthu tybaco

  • Cyhoeddwyd
Peiriant gwerthu sigarennauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y llywodraeth mae yna 3,000 o’r peiriannu yma yng Nghymru

Mae hi nawr yn anghyfreithlon i werthu sigarennau neu unrhyw gynnyrch tybaco arall o beiriant yng Nghymru.

Mae'r gwaharddiad yn dilyn ymchwil oedd yn dangos bod 10% o ysmygwyr rhwng 11-15 oed ym Mhrydain yn prynu sigarennau o'r peiriannau.

Bydd unrhyw fusnes sy'n torri'r gyfraith yn wynebu dirwy o £2,500.

"Mae gwahardd y gwerthiant o dybaco o beiriannau gwerthu yn gam tuag at leihau'r ddibyniaeth ar ysmygu ymhlith plant a gwella iechyd ein cymunedau," meddai Steve Whitehouse, cadeirydd Penaethiaid Safonau Masnach Cymru."

Mewn prawf gafodd ei oruchwylio gan swyddogion safonau masnach, llwyddodd dros hanner (59%) o'r 145 o bobl ifanc oedd yn rhan o'r prawf i brynu sigarennau o beiriannau.

Hysbysebion

Yn ôl y gyfraith newydd mae modd i dafarnwyr barhau i werthu sigarennau o beiriannau o'r tu ôl i'r bar.

Ond mae'n rhaid i'r peiriant fod mewn safle lle nad yw'n bosib i unrhyw aelod o'r cyhoedd ei ddefnyddio.

Fe fydd hi hefyd yn erbyn y gyfraith i ddangos hysbysebion neu luniau o gynhyrchion tybaco ar y peiriannau gwerthu.

Gallai unrhyw un sy'n torri'r gyfraith yma gael dirwy o £5,000 neu wynebu dwy flynedd yn y carchar.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Mae peiriannau gwerthu yn ffordd hawdd i blant brynu sigarennau, yn enwedig lle nad yw'r peiriannau o dan arolygiaeth."

Mae gwaharddiad tebyg wedi bod mewn bodolaeth yn Lloegr ers Hydref 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol