Plaid Cymru: Cynllun annibyniaeth i Gymru ond nid yn y tymor cyntaf

gorymdaithFfynhonnell y llun, Yes Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gorymdaith yn Y Barri yn gynharach eleni i alw am annibyniaeth i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi addo cyhoeddi cynllun ar gyfer annibyniaeth i Gymru - ond nid o fewn tymor cyntaf llywodraeth a fyddai'n cael ei harwain gan y blaid.

Yng nghynadledd y blaid yn Abertawe, cymeradwyodd aelodau gynnig eu harweinydd Rhun ap Iorwerth i sefydlu "comisiwn sefydlog" a fyddai'n siarad â'r cyhoedd am ddyfodol Cymru.

Cefnogodd aelodau gynlluniau i'r comisiwn baratoi papur gwyn ar annibyniaeth i Gymru, ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru nad oedd hynny "ar gyfer y tymor nesaf" petaen nhw'n llywodraethu.

Ni chafodd dyddiad ei nodi, ond roedd yna awgrym y gallai Plaid Cymru ystyried cynllun i sicrhau annibyniaeth i Gymru pe bai'n ennill etholiadau'r Senedd yn 2026 a 2030.

Wrth siarad yn y gynhadledd yn Abertawe dywedodd yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth, bod Plaid Cymru yn barod i "ddisodli" Llafur yn etholiad nesaf y Senedd.

Mae'r blaid eisoes wedi cefnu ar eu hymrwymiad blaenorol o gael refferendwm ar annibyniaeth o fewn pum mlynedd - ymrwymiad a gafodd ei wneud yn ystod ymgyrch yr etholiad diwethaf yn 2021 o dan y cyn-arweinydd Adam Price.

Ym mis Mai dywedodd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, na fyddai refferendwm yn cael ei gynnal yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru.

Yn ystod ei araith ddydd Gwener dywedodd y byddai ei blaid yn "hybu y drafodaeth genedlaethol ar annibyniaeth".

Rhun ap IFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd Plaid Cymru ers 2023

Cymeradwyodd y gynhadledd flynyddol ddydd Sadwrn gynnig a oedd yn nodi fod Cymru "ar daith i annibyniaeth, a bod cael mwy o bwerau datganoli yn gallu ffurfio rhan o'r daith honno".

Nodwyd fod comisiwn annibynnol blaenorol ar ddyfodol Cymru, a oedd yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn "fodel ar gyfer ymgysylltu â phobl" ar faterion cyfansoddiadol.

Roedd y cynnig yn dweud y dylid sefydlu comisiwn sefydlog i oruchwylio argymhellion.

Ymhlith materion eraill, galwodd y comisiwn am roi pwerau cyfiawnder a phlismona i Lywodraeth Cymru, ac am ddatganoli gwasanaethau rheilffyrdd yn llawn – dau benderfyniad y byddai angen i lywodraeth y DU eu cymeradwyo.

Roedd annibyniaeth yn ddewis y gellid ei ystyried ar gyfer dyfodol Cymru, meddai'r comisiwn, er nad oedd yn ei gefnogi'n benodol nac unrhyw opsiwn arall - ac roedd yna rybudd bod annibyniaeth yn golygu "dewisiadau anodd yn y tymor byr i ganolig".

Roedd y cynnig yn y gynhadledd yn nodi y byddai'r comisiwn sefydlog yn cysylltu â "dinasyddion yn gyson ar faterion cyfansoddiadol" ac yn ymchwilio i "faterion sy'n berthnasol i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru".

Byddai hefyd yn paratoi "papur gwyn ar annibyniaeth i Gymru". Nododd y cynnig hefyd y dylai'r grym i gynnal refferendwm gael ei ddatganoli.

Mae papur gwyn yn ddogfen sy'n manylu ar gynlluniau neu gynigion llywodraeth.

Cyhoeddodd yr SNP bapur gwyn ar eu cynlluniau annibyniaeth cyn refferendwm yr Alban yn 2014 - yn ystod eu hail dymor mewn grym.

Dywedwyd wrth BBC Cymru y gallai'r comisiwn sefydlog ddechrau casglu tystiolaeth ar gyfer papur gwyn yn nhymor cyntaf Plaid Cymru.

Wrth gyflwyno'r cynnig i'r gynhadledd ddydd Sadwrn, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Mae'r cynnig yn edrych tua'r dyfodol... a'r angen yn y pen draw am bapur gwyn a fyddai'n gosod y llwybr ffurfiol tuag refferendwm.

"Rydym yn ei gwneud yn glir mai ni ddylai alw'r refferendwm pan fydd yr amser yn iawn.

"Ond dyw hynny ddim rwan nac ar gyfer tymor nesaf y llywodraeth.

"Ein gwaith nawr yw trafod y camau nesaf ar gyfer taith gyfansoddiadol Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.