Dim gwelliant sylweddol yn y gofal am bobl hŷn
- Cyhoeddwyd
Bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cyhoeddi ei hadroddiad monitro cyntaf wedi adolygiad o brofiadau pobl hŷn mewn ysbytai.
Cynhaliwyd adolygiad 'Gofal Gydag Urddas?' flwyddyn yn ôl.
Yn ei hadroddiad diweddaraf dywedodd Sarah Rochira bod "agweddau yn newid".
Ond er bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Llywodraeth Cymru yn ystyried urddas mewn gofal yn fwy difrifol, does dim tystiolaeth bod gwelliant sylweddol wedi bod yn safon y gofal na phrofiad y claf.
"Mae fy adroddiad yn dangos bod urddas mewn gofal yn cael ei gymryd o ddifri yn fwy nag erioed gan y gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru, ac rwy'n fodlon bod y cyrff wedi dechrau gweithredu yn unol â'u cynlluniau," meddai Sarah Rochira.
"Dros y 18 mis nesaf byddaf fel Comisiynydd yn canolbwyntio ar gael tystiolaeth glir gan y gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru o welliannau go iawn mewn safon gofal a phrofiad y claf ar lefel y ward.
'Hyderus'
"Dylai pobl hŷn, lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru, deimlo'n hyderus y byddan nhw'n cael eu trin gydag urddas a pharch wrth fynd i'r ysbyty.
"Bydd eu lleisiau a'u profiadau nhw - ynghyd â lleisiau'r bobl sy'n gofalu amdanyn nhw - wrth galon fy nyfarniad terfynol.
"Os na fyddaf yn fodlon bod newid go iawn a gwelliant go iawn ym mhrofiad y claf, byddaf yn galw ar gadeiryddion a phrif weithredwyr y Byrddau Iechyd neu'r ymddiriedolaeth i sicrhau y bydd gwelliannau i bob person hŷn ar draws Cymru.
"Os yn briodol, byddaf yn cynnal adolygiad pellach o wasanaethau ar lefel Bwrdd, ysbyty neu ward.
"Er mwyn cadw'r momentwm rwyf wedi cytuno gyda Phrif Weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru y bydd yn darparu adroddiad arall ym mis Mawrth 2013 sy'n amlinellu'r gwelliannau sydd wedi digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012