Ystyried a ydy pobl hŷn yn cael eu trin ag urddas

  • Cyhoeddwyd
Nyrs a chlaf
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynadleddwyr yn trafod ystyr urddas i bobl hŷn

Mae arbenigwyr o bob cwr o Gymru'n ystyried sut i wneud yn siŵr fod pobl hŷn sy'n derbyn gofal yn cael eu trin ag urddas.

Age Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy'n cynnal y gynhadledd - Sicrhau Urddas - yn Llandrindod ddydd Llun.

Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig a Diwrnod Pobl Hŷn y DU.

Dywedodd Robert Taylor, Prif Swyddog Age Cymru, mai'r peth lleiaf y gallai bobl ddisgwyl gan gymdeithas yw cael eu trin ag urddas.

Urddas a pharch

"Ond mae'r gofyn syml hwn yn cael ei anwybyddu weithiau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar adegau mae'r system yn methu pobl yn llwyr," meddai.

"Rydym wedi cyd-drefnu'r digwyddiad, gan ddod â phobl hŷn a staff rheng flaen at ei gilydd i edrych ar atebion ymarferol sy'n sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin gydag urddas bob amser."

Bydd cynadleddwyr yn trafod ystyr urddas i bobl hŷn, hawl pobl i gael eu trin yn urddasol ar bob adeg a sut mae mynd ati i gyflawni hyn.

Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: "Mae pobl hŷn yn aml yn dweud wrthyf pa mor bwysig yw cael eu trin gydag urddas a pharch a bod hyn yn rhan sylfaenol o ddarparu gofal o ansawdd uchel, beth bynnag fo'r lleoliad.

'Newid cadarnhaol'

"Rydym wedi gweld newid cadarnhaol yn dilyn fy adolygiad 'Gofal gydag Urddas?', ond nid oes lle i laesu dwylo.

"Rwy'n falch bod cymaint o gynrychiolwyr - o brif weithredwyr a chomisiynwyr gwasanaethau, i staff rheng flaen - yn bresennol yn y gynhadledd heddiw i nodi ffyrdd ymarferol o ddarparu urddas i bobl hŷn.

"Mae hyn yn brawf o'r ymrwymiad cynyddol sydd ar bob lefel i sicrhau ein bod yn darparu urddas ar gyfer holl bobl hŷn Cymru."

Y gynhadledd Sicrhau Urddas yw'r digwyddiad cyntaf i'r cyrff yma ei gynnal ar y cyd.

Dywedodd Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Mae llawer o'r ymchwiliadau a gynhaliwyd gan fy swyddfa i gwynion am ofal iechyd wedi datgelu achosion lle nad yw pobl hŷn wedi cael eu trin gydag urddas a pharch.

"Fodd bynnag, rwyf yn awyddus i ddefnyddio'r gynhadledd i siarad am rai o'r gwelliannau y mae'r gwasanaethau gofal wedi eu cyflwyno i sicrhau fod pobl hŷn yn mwynhau safonau gwell o ofal a thriniaeth yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol