Wrecsam yn codi i'r ail safle
- Cyhoeddwyd
Stockport County 2-3 Wrecsam
Mae Wrecsam wedi codi i'r ail safle yn Uwchgynghrair Blue Square bet yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn Stockport nos Fercher.
Roedd y 23 cyntaf yn anodd i'r ymwelwyr, ac fe aeth Stockport ar y blaen ar ddiwedd y cyfnod yna wrth i Danny Hattersley rwydo yn dilyn croesiad gan Sean Newton.
Ond roedd Wrecsam yn gyfartal o fewn munud. Roedd dryswch yng nghwrt cosbi Stockport yn dilyn cic gornel gan Wrecsam, ac fe wyrodd y bêl oddi ar Craig Hobson i'w rwyd ei hun.
Dyna oedd y sbardun i Wrecsam ddechrau chwarae, ac o gic gornel arall roedd trosedd yn y cwrt cosbi ar Chris Westwood wedi 37 munud.
Neil Ashton gafodd y cyfrifoldeb o'r smotyn, ac fe sgoriodd i roi Wrecsam ar y blaen ar yr egwyl.
Gorfoledd a siom
Andy Coughlin oedd golwr Wrecsam ar y noson gan fod Joslain Mayebi i ffwrdd ar ddyletswydd rhyngwladol, ac roedd ef a golwr Stockport, Lewis King, yn ddigon prysur yn yr ail hanner.
Ond roedd Ashton ar fin profi gorfoledd a siom o fewn eiliadau.
Wedi 81 munud fe gafodd Wrecsam ail gic o'r smotyn wedi trosedd gan y golwr ar Danny Wright, ac fe sgoriodd Ashton ei ail gôl o'r smotyn.
Ond be benderfynnodd y dyfarnwr bod dathliad Ashton yn haeddu cerdyn melyn - gan mai dyna ei ail gerdyn yn y gêm, trodd y melyn yn goch ac fe adawodd y maes.
Roedd rhaid i Wrecsam amddiffyn am weddill y gêm, ond o fewn dau funud roedd Danny Hattersley hefyd wedi sgorio eilwaith i'w gwneud hi'n 2-3.
Ond fe ddaliodd Wrecsam eu gafael am driphwynt gwerthfawr sy'n eu codi o fewn tri i Casnewydd ar y brig.