Gwobr bwysig i denor 25 oed o Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Trystan Llyr GriffithsFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

'Yn falch dros ben': Trystan Llŷr Griffiths

Mae tenor 25 oed wedi ennill gwobor lansiodd yrfaoedd sêr opera fel Bryn Terfel a Rebecca Evans.

Trystan Llŷr Griffiths, sy'n byw yng Nghlunderwen, Sir Benfro, enillodd Gystadleuaeth MOCSA Canwr Ifanc Cymreig y Flwyddyn sy'n golygu ei fod yn ennill tlws a Gwobor Goffa Ivor E Sims, £2,000.

"Alla i ddim credu 'mod i wedi ennill y wobr," meddai'r canwr gafodd ei eni yn Hwlffordd. "Wy'n falch dros ben."

"Hwn oedd y tro cynta' i fi ganu yn y gystadleuaeth."

Dywedodd iddo ganu ers yr oedd yn grwt ifanc, yn y capel gynta' cyn Ysgolion Beca a'r Preseli ac wedyn mewn Eisteddfodau.

'Tipyn o lwyddiant'

"Wedyn fe ges i dipyn o lwyddiant yn yr Urdd a'r Genedlaethol."

Roedd yn ddiolchgar, meddai, i Eilir Thomas o Landysilio oedd wedi ei hyfforddi ers 18 mlynedd.

"Fydden i ddim yn unman heblaw amdani hi."

Hon oedd y 36ed gystadleuaeth a'r trefnwyr oedd Côr Orpheus Treforys.

Mae Trystan newydd orffen cwrs MA yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ac yn dilyn cwrs opera MA yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.

"Wy'n moyn ca'l cymaint o brofiadau cerddorol â phosib' ar y cwrs," meddai.

"Mae opera'n fyd cystadleuol iawn ac mae eisie disgyblaeth. Wy'n moyn gwbod a wy'n addas neu beidio."

Roedd yng Ngholeg y Drindod rhwng 2005 a 2008 cyn gweithio i gwmni drysau yn Hendy Gwyn ar Daf ond yn teithio drwy Gymru.

Gwobrau

Eisoes mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobor Osborne Roberts yn 2009 (Y Rhuban Glas o dan 25) yn yr Eisteddfod ac Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn yr Eisteddfod yn 2011.

Fe oedd un o'r rhai cynta' i dderbyn Ysgoloriaeth Astudio oddi wrth Sefydliad Bryn Terfel a phenderfynodd cwmni recordiau Decca taw fe oedd Llais Cymru eleni.

Y tri arall yn rownd derfynol cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymreig y Flwyddyn oedd Eirlys Myfanwy Davies, mezzo soprano o Lanelli, Samuel Furness, tenor o Gaerdydd, ac Angharad Morgan, soprano o Abertawe.

Y beirniad oedd Julian Smith, ymgynghorydd cerddorol Cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, Dr Richard Elfyn Jones, cyn aelod pwyllgor cerdd canolog yr Eisteddfod Genedlaethol, a Leah-Marian Jones, mezzo soprano a chyn enillydd.