Gofal cartref: Mesurau ar y gweill

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Nid y gweithwyr gofal oedd ar fai, meddai, ond arferion y cwmnïoedd oedd yn eu cyflogi.

Dywed Llywodraeth Cymru fod camau yn cael eu cymryd i wella gwasanaethau ar gyfer pobl sydd angen gofal yn y cartref.

Roedd AS Cwm Cynon Ann Clwyd wedi beirniadu'r drefn bresennol drwy ddweud ei fod yn "anghyson ac annibynadwy" am fod contractwyr yn newid yn aml.

Roedd ei barn, meddai, ar sail ei phrofiad personol a chwynion ei hetholwyr.

Nid y gweithwyr gofal oedd ar fai, meddai, ond arferion y cwmnïoedd oedd yn eu cyflogi.

Dywed Llywodraeth Cymru fod disgwyl i ddeddfwriaeth newydd i wella'r sefyllfa gael ei gymeradwyo'r flwyddyn nesa'.

Mae rhaglen i wella'r ddarpariaeth wedi amlinellu mewn papur gwyn.

"Mae llywodraeth leol yn ymateb gyda chynllun fydd yn cynnwys y broses o gomisiynu gwasanaethau yn lleol," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

"Mae'r uchafswm o godi tal wythnosol o £50 ar gyfer gofal, polisi gafod ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, wedi gwella'r sefyllfa i ddefnyddwyr."

'Anghyson'

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi cyhoeddi yn ddiweddar eu bwriad i orfodi rheolwyr ar gyfer asiantaethau sy'n cynnig gofal yn y cartref i gofrestru gyda Cyngor Gofal Cymru.

Byddai hefyd angen i'r asiantaethau fod a chymwysterau addas.

Mae gŵr Ann Clwyd, Owen Roberts, yn diodde o barlys ymledol.

Dywedodd ei bod hi o'r farn fod newid gofalwyr wrth i gwmnïau newid dwylo yn golygu fod y gwasanaeth yn anghyson.

"Ar y cyfan, mae asiantaethau'n darparu gwasanaeth da a'r gweithwyr gofal yn ymroddedig," meddai'r AS.

"Ond mae cyflog y gweithwyr yn isel, eu hamodau gwaith yn wael ac mae 'na lawer o bwysau arnyn nhw.

'Cywilydd'

"Mae'r gofalwyr yn cael eu talu o 8am tan 9am ond yn gorfod gadael 10 munud yn gynt oherwydd maen nhw i fod yn y lle nesa pan maen nhw gyda chi.

"Does dim amser teithio ac mae'r pwysau arnyn nhw'n ofnadwy.

"Maen nhw'n nerfus a'r cleifion yn nerfus ... mae'r gweithwyr yn teimlo cywilydd am na allan nhw gynnig y gofal sy' ei angen.

"Does dim tâl salwch. Felly yn aml mae'r rhai sy'n gwneud gwaith anodd yn mynd i'r gwaith yn sâl."

Dywedodd Mitie, y cwmni sy' wedi cymryd drosodd Enara, y cwmni y mae ei gŵr yn ei ddefnyddio, y bydden nhw'n cynnal "adolygiad llawn" o waith Enara.

"Rydym yn croesawu trafodaeth ag Ann Clwyd ac yn bwriadu cysylltu â hi o fewn wythnosau.

"Eisoes rydym wedi creu bwrdd ymgynghori iechyd sy'n sicrhau bod Enara yn cynnig y safonau uchaf.

"Hwn yw'r cam cyntaf."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol