Gwasanaethau gofal yn 'anghyson,' medd AS Cwm Cynon

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Nid y gweithwyr gofal oedd ar fai, meddai, ond arferion y cwmnïoedd oedd yn eu cyflogi.

Mae AS Cwm Cynon wedi rhybuddio bod gwasanaethau gofal cartre' yng Nghymru'n "anghyson ac annibynadwy" am fod contractwyr yn newid yn aml.

Roedd ei barn, meddai, ar sail ei phrofiad personol a chwynion ei hetholwyr.

Mae ei gŵr, Owen Roberts, yn diodde o barlys ymledol.

Nid y gweithwyr gofal oedd ar fai, meddai, ond arferion y cwmnïoedd oedd yn eu cyflogi.

"Mae'r sefyllfa'n annerbyniol i'r rhai sy'n gweithio ac i'r cleifion," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn paratoi diwygiadau fyddai'n gwella'r sefyllfa.

'Pwysau'

"Ar y cyfan, mae asiantaethau'n darparu gwasanaeth da a'r gweithwyr gofal yn ymroddedig, meddai'r AS.

"Ond mae cyflog y gweithwyr yn isel, eu hamodau gwaith yn wael ac mae 'na lawer o bwysau arnyn nhw."

Dywedodd fod gofalwyr teuluol oedd yn cadw dyddiadur ar gyfer cylchgrawn Which wedi sôn am weithwyr gofal nad oedd yn cyrraedd, gofal gwael, pobl fregus yn cael eu drysu a heb fwyd ac weithiau mewn perygl.

Yr enghraifft waetha', meddai, oedd merch yn dweud fod rhywun wedi golchi wyneb ei mam â chlwtyn oedd yn llawn carthion.

Wedyn cyfeiriodd at ei phrofiad personol hi.

'Cywilydd'

"... mae'r gofalwyr yn cael eu talu o 8am tan 9am ond yn gorfod gadael 10 munud yn gynt oherwydd maen nhw i fod yn y lle nesa pan maen nhw gyda chi.

"Does dim amser teithio ac mae'r pwysau arnyn nhw'n ofnadwy.

"Maen nhw'n nerfus a'r cleifion yn nerfus ... mae'r gweithwyr yn teimlo cywilydd am na allan nhw gynnig y gofal sy' ei angen.

"Does dim tâl salwch. Felly yn aml mae'r rhai sy'n gwneud gwaith anodd yn mynd i'r gwaith yn sâl."

Dywedodd Mitie, y cwmni sy' wedi cymryd drosodd Enara, y cwmni y mae ei gŵr yn ei ddefnyddio, y bydden nhw'n cynnal "adolygiad llawn" o waith Enara.

"Rydym yn croesawu trafodaeth ag Ann Clwyd ac yn bwriadu cysylltu â hi o fewn wythnosau.

'Deddfu'

"Eisoes rydym wedi creu bwrdd ymgynghori iechyd sy'n sicrhau bod Enara yn cynnig y safonau uchaf.

"Hwn yw'r cam cyntaf."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw deddfu'r flwyddyn nesa' wedi Papur Gwyn ac y byddai cynghorau'n paratoi cynlluniau gweithredu.

"Yn ddiweddar, mae'r Dirprwy Weinidog Gwenda Thomas wedi cyhoeddi ymgynghori yn achos deddfwriaeth fydd yn golygu bod rheolwyr asiantaethau gofal yn dal cymwysterau addas ac yn cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru.

"Rydym yn ymroddedig i godi safonau ymhlith gweithwyr gofal fel bod modd amddiffyn y rhai bregus sy'n defnyddio'r gwasanaeth."