Cartref parhaol i ardd goffa Capten Scott
- Cyhoeddwyd
Mae gan ardd goffa anturiaethwr enwog gartref parhaol.
Ym Mharc y Rhath yng Nghaerdydd bydd gardd gafodd ei hysbrydoli gan daith y Capten Robert Falcon Scott i'r Antarctig.
Ar Fehefin 15 1910 roedd torf fawr yn bresennol wrth i'r SS Terra Nova adael Basn y Rhath yn nociau Caerdydd.
Ar ei bwrdd roedd y capten ac aelodau'r Alldaith Brydeinig i'r Antarctig.
Y nod oedd bod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De.
Sioe Flodau Chelsea
Bu farw'r capten a phedwar arall, gan gynnwys Edgar Evans o Rosili ym Mhenrhyn Gŵyr ar y daith yn ôl o'r Pegwn wedi i Roald Amundsen o Norwy gyrraedd Pegwn y De yn gynt.
Enillodd yr ardd wobrau yn Sioe Flodau Chelsea a Sioe'r RHS Caerdydd.
Roedd Gwasanaeth Parciau Cyngor Caerdydd wedi ei chreu wrth nodi canmlwyddiant taith Scott i'r Antartig.
Siart cwmpawd Scott yw ysbrydoliaeth yr ardd. Yn ei chanol mae cerflun tal, a wnaed ym Mae Caerdydd.
Mae plannu topiari ynghyd â lafant a gwair yn atgof o erddi Edwardaidd Caerdydd.
Roedd pobl Caerdydd wedi codi arian mawr ar gyfer taith Scott ac fe ddiolchodd iddyn nhw drwy gychwyn ei daith o Gaerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012