Gwleidyddion yn trafod creu dinas-ranbarthau
- Cyhoeddwyd
Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod adroddiad ddydd Mawrth sy'n galw am greu dwy ddinas-ranbarth yn ne Cymru - un yn ardal Caerdydd, a'r llall yn ardal Abertawe.
Dim ond 33% o gyfoeth Cymru sy'n cael ei greu gan ein dinasoedd - y gyfran isaf o holl wledydd a rhanbarthau Prydain.
Llywodraeth Cymru sydd wedi comisiynu'r adroddiad, yn y gobaith o gael atebion ar sut i wella sefyllfa economaidd Cymru.
Er nad oes gan Gymru ddinasoedd mawrion gyda phoblogaeth o 500,000 neu fwy, mae ganddi ranbarthau a phoblogaethau llawer mwy.
Mae 1.4 miliwn o bobl yn byw yn y de ddwyrain, a rhyw 700,000 yn y de orllewin.
Potensial
Bu Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg yn un o aelodau'r grŵp fu'n edrych ar greu dinas-ranbarthau.
Yn ôl y Dr Martin Rhisiart o'r brifysgol, mae 'na botensial yn yr ardaloedd dan sylw.
"Wrth uno'r ddinas gyda'r dalgylch o'i chwmpas, mae'n creu mwy o ddwyster o ran potensial economaidd, a'r hyn fyddai'n wahanol yn fan hyn yw'n bod ni'n cymryd y pwerau hynny sydd yn graidd i ddatblygu economaidd, cynllunio, polisi tai, a phethau eraill sydd ynghlwm â datblygiad economaidd, a'u rhoi nhw yn y lefel yna sydd yn fwya' pwrpasol ar gyfer datblygu economaidd, sef y ddinas-ranbarth.
"Ac yn hytrach na bod, er enghraifft, cynllun i bob awdurdod lleol, sy'n gwneud yr un pethau, ein bod ni'n cael un cynllun ar gyfer y pwerau hynny a'r meysydd hynny, sydd yn rhoi synnwyr mwy holistig o bethau'n symud ac yn tynnu i'r un cyfeiriad."
Symud 'mlaen
Yn ôl y grŵp ymchwil, does dim digon o boblogaeth yn y gogledd i gyfiawnhau dinas-ranbarth, yn enwedig gan fod dwy ddinas-ranbarth yn agos at y ffin ym Manceinion ac yn Lerpwl.
Ond mae'n rhaid gwneud rhywbeth ar frys i wella sefyllfa economaidd Cymru ar gyfer y tymor hir, meddai'r Dr Rhisiart.
"Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau gyda'r agenda - mae 'na arwyddion eu bod nhw'n awyddus iawn i symud 'mlaen.
"Mae'n rhaid i weithredoedd ddigwydd yn eitha' sydyn," meddai'r Dr Rhisiart, "ond bod o'n weledigaeth, gobeithio, mae pawb yn gallu cytuno ag e, a bod nhw'n parhau â'r weledigaeth yna am o leia' 10 mlynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012