Arddangosfa arwyr rygbi yng Nghaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Delme Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae arddangosfa o luniau o sêr byd rygbi ddoe a heddiw o ardal Caerfyrddin yn cael ei chynnal mewn canolfan siopa yn y dref. Mae llun Delme Thomas, capten Llanelli pan gurodd y tîm y Crysau Duon yn 1972, yn rhan o'r arddangosfa.

Disgrifiad o’r llun,

Comisiynwyd yr arddangosfa gan Ganolfan Siopa Santes Catrin Caerfyrddin i gyd-daro â dathliadau 40 mlynedd buddugoliaeth Llanelli dros y Crysau Duon ar Hydref 31ain, 1972. Roy Bergiers sgoriodd yr unig gais yn y gêm.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfres o hunanbortreadau wedi eu tynnu dan oruchwyliaeth y ffotograffwyr Ric Bower a Paul Avis yw'r lluniau, gan gynnwys yr un yma un o Emyr Lewis, cyn-chwaraewr Llanelli.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken a Vicky Owens yn frawd a chwaer a'r ddau wedi cael capiau i Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Prif nod yr arddangosfa yw ysbrydoli chwaraewyr rygbi ifanc yr ardal sy'n cael eu rhoi yng nghwmni chwaraewyr o Gaerfyrddin a'r fro sydd wedi cyrraedd y brig ym myd rygbi, megis Rhys Priestland.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd arddangosfa Arwyr Rygbi, sy'n cynnwys y llun yma o Ieuan Evans, yn y ganolfan siopa tan Hydref 31.