Lluniau'n dangos hanes dociau Caerdydd a Phenarth
- Cyhoeddwyd

Mae arddangosfa yn Neuadd y Ddinas Caerdydd wedi bod yn dangos hanes dociau Caerdydd a Phenarth mewn hen luniau. Mae'r llun yma'n dangos doc yng Nghaerdydd yn 1844.

Mae'r lluniau'n dangos sut y datblygodd y dociau i ddod o blith y mwyaf yn y byd. Mae'r llun yma'n dangos doc yng Nghaerdydd yn 1884.

Mae'r llun yma'n dangos pontŵn Mount Stuart, tua 1905.

Yn y 1900au cynnar roedd miloedd o longau'n dod i mewn i ddociau Caerdydd. Mae'r llun yma'n dangos atgyweiriadau i ddoc yng Nghaerdydd tua 1955.

Mae'r llun yma'n dangos car yn cael ei allforio i Awstralia yn 1955

Mae'r llun yma'n dangos bananas yn cael eu mewnforio o Kenya tua 1955

Mae'r arddangosfa'n gorffen am 6pm ddydd Gwener

Llun diweddar o Fae Caerdydd wedi i'r hen dociau ddiflannu a'r ardal cael ei hail-ddatblygu. (Diolch i Associated British Ports am y lluniau).