Darganfod llun o Harri'r Wythfed
- Cyhoeddwyd
Mae "trysor brenhinol" gydag un o'r lluniau cynharaf o Harri'r Wythfed wedi cael ei ddarganfod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cafodd y llawysgrif ei rhoi i'r llyfrgell yn Aberystwyth ym 1921, ond mae swyddogion yn dweud mai dim ond yn ddiweddar y sylweddolwyd ei wir arwyddocâd.
Credir bod un o 34 llun y llawysgrif yn dangos Harri'r Wythfed yn fachgen 11 mlwydd oed yn llefain ar wely gwag ei fam, Elizabeth.
Dywedodd y llyfrgell y gallai'r llawysgrif fod yn werth mwy na £1 miliwn.
Mae'r llawysgrif yn cynnwys llyfr Pasiwn o'r 15fed ganrif yn dangos diwrnodau olaf Iesu Grist ar y ddaear trwy luniau ac ysgrifen, yn iaith Ffrangeg Canol Oesol.
Mae hefyd yn cynnwys y gerdd Le Miroir de la Mort (Drych Marwolaeth) gan Georges Chastellain.
Credir i'r llawysgrif gael ei roi i Harri VII, tad Harri'r Wythfed, wedi marwolaeth ei wraig Elizabeth o Efrog.
Mae un o'r lluniau'n dangos Harri VII yn derbyn y llawysgrif ac yng nghornel y llun mae Harri'r Wythfed yn fachgen ifanc gyda'i ben i lawr ar wely ei fam, ym marn arbenigwyr.
Mae Dr Maredudd ap Huw, llyfrgellydd llawysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol, wedi bod yn ail-edrych ar y llawysgrif ac wedi dod i'r casgliad ei bod yn drysor hir-goll o lyfrgell frenhinol Harri VII.
"Mae'r llawysgrif yn cynnwys goliwiad yn dangos llyfr yn cael ei roi i frenin.
"Mae dwy ferch yn gwisgo penwisgoedd du yn y cefndir, yn ogystal â bachgen ifanc yn llefain ger gwely â gorchudd du.
"Mae ymchwiliadau cynnar yn awgrymu mai efallai'r Dywysoges Margaret, 13 mlwydd oed, aeth ymlaen i briodi Iago IV o'r Alban, a'r Dywysoges Mary, saith mlwydd oed, a aeth ymlaen i briodi Louis XII o Ffrainc, a'r Dywysog Harri, 11 mlwydd oed, yn fuan wedi marwolaeth eu mam yn Chwefror 1503 yw'r ffigyrau yma."
Ychwanegodd Dr ap Huw: "Rydym yn gwybod o ffynonellau eraill mai perthynas oer oedd gan Harri'r Wythfed gyda'i dad, ond roedd yn agos iawn at ei fam.
"Mae'r llun yn dangos Harri'n galaru ac mae'n wahanol iawn i luniau hwyrach ohono fel brenin milwrol."
'Trysor brenhinol'
Rhodd i'r llyfrgell gan Gwendoline a Margaret Davies o Neuadd Gregynog, ger Y Drenewydd, Powys, oedd y llawysgrif.
Yn wreiddiol, y Foneddiges Joan Guilford, a oedd yn athrawes gartref i'r tywysogesau Margaret a Mary Tudor, oedd piau'r llawysgrif.
"Mae llyfr Pasiwn o'r 15fed ganrif wedi troi allan i fod yn drysor brenhinol," meddai Dr ap Huw.
"Mae ei gwerth wedi cynyddu'n sylweddol ac fe allai fod yn werth dros £1 miliwn oherwydd y cyswllt brenhinol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012