Newid llefarwyr Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn penderfyniad Bethan Jenkins AC i sefyll o'r neilltu o fainc flaen Plaid Cymru mae arweinydd y Blaid, Leanne Wood, wedi cyhoeddi newidiadau.
Mae Ms Jenkins, AC Gorllewin De Cymru, wedi cael ei gwahardd rhag bod yn aelod o grŵp y Blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi iddi gael ei harestio gan yr heddlu ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol.
Ms Jenkins oedd llefarydd Plaid Cymru ar Dreftadaeth, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.
Does dim enwau newydd ymhlith y llefarwyr, ond mae cyfrifoldebau'r llefarwyr wedi newid rhywfaint er mwyn ysgwyddo'r baich a adawyd gan ymadawiad Ms Jenkins.
Dyma restr gyflawn o Gabinet y Blaid sy'n cysgodi Llywodraeth Cymru:-
Economi a swyddi
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Leanne Wood mae pwrpas yr ad-drefnu yw defnyddio "grŵp hynod dalentog a dawnus o Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd".
Y flaenoriaeth i Blaid Cymru, meddai, yw gwella'r economi a chreu swyddi i bobl yng Nghymru a "byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau pobl Cymru".
Ychwanegodd Leanne Wood:
"Mae gan Blaid Cymru grŵp hynod dalentog a dawnus o Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd sydd wedi ymrwymo i wasanaethu'r cymunedau y maent yn cynrychioli.
"Gwella'r economi a chreu swyddi i bobl yng Nghymru yw canolbwynt ein gwaith, a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau pobl Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012