Yfed a Gyrru: Plaid Cymru yn diarddel Bethan Jenkins
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi diarddel un o'u haelodau yn y Cynulliad o'r grŵp ar ôl iddi gael ei harestio yn gyrru tra o dan ddylanwad alcohol.
Roedd Bethan Jenkins yn gyrru o dŷ ffrindiau yng Nghaerdydd pan gafodd hi ei stopio gan yr heddlu yn ystod oriau mân fore Sul.
Mae hi wedi ymddiheuro yn fawr am y digwyddiad, gan gyfaddef nad oes modd cyfiawnhau ei hymddygiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod gyrru dan ddylanwad alcohol yn rhyfygus ac yn anghyfrifol.
'Dim esgus'
Ychwanegodd: "Rydym yn ystyried y digwyddiad hwn yn un hynod o ddifrifol.
"Mae Bethan Jenkins wedi ei diarddel o'r grŵp tra bo'r broses cyfiawnder yn cymryd ei gwrs."
Dywedodd datganiad gan Bethan Jenkins sy'n Aelod y Cynulliad dros Gorllewin De Cymru: "Yn ystod oriau mân fore dydd Sul, gyrrais o dŷ ffrind, lle'r oeddwn yn aros, i gyfeiriad fy nghartref, tra yr oeddwn dan ddylanwad alcohol.
"Does dim esgus am yr hyn a wnaethais, ac mae'n ddrwg o galon gen i.
"Rwyf yn gwbl ymwybodol o ddifrifoldeb yr hyn a wnaethais, ac i'r perygl i fy hun ac i eraill, o yrru dan ddylanwad alcohol.
"Mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn wirioneddol difaru gwneud a byddaf yn llawn derbyn y gosb bydd yn cael ei rhoi i mi.
'Problem iechyd cydnabyddedig'
"Yn ystod yr wythnosau diwethaf yr wyf wedi bod yn derbyn help gan weithiwr meddygol proffesiynol a chynghorwr i fynd i'r afael â phroblem iechyd cydnabyddedig.
"Does dim esgus am y digwyddiad, ond rydw i nawr yn sicr fod angen i mi ymdrin â'r broblem fel mater o frys.
"I wneud hynny, rydw i nawr yn derbyn cefnogaeth meddygol proffesiynol ar gyfer iselder, rhywbeth yr wyf yn dechrau dod i delerau ag ef.
"Byddaf hefyd yn ildio fy rôl fel llefarydd grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad ar Dreftadaeth, yr iaith Gymraeg a Chwaraeon.
"Hoffwn ddiolch i'r heddlu am sicrhau diogelwch eraill a fy niogelwch i wrth weithredu fel y gwnaethon, ac rwyf yn ymddiheuro yn fawr iawn iddynt am ychwanegu at ei gwaith anodd."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Cafodd menyw 30 oed o Gastell-nedd ei harestio ar amheuaeth o yrru ac yfed yn Llandaf, Caerdydd tua 1:40am ddydd Sul Hydref 14.
"Mae hi wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2012