Cyn-Bennaeth Newyddion BBC Cymru, Owen Roberts, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Owen Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Owen Roberts: 'Cryfder yn ei gymeriad'

Mae cyn-Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, Owen Roberts, wedi marw.

Roedd gŵr Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd, yn dioddef o barlys ymledol.

Yn ddiweddar, fe dynnodd hi sylw at achos ei gŵr - a chyflwr rhai o'i hetholwyr - wrth gyfeirio at wasanaethau gofal yng Nghymru.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Roedd yn ddrwg gennym glywed am farwolaeth Owen Roberts a arweiniodd ein timau newyddion teledu a radio yn BBC Cymru yn y 1970au, fel Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes.

"Roedd yn gynhyrchydd amlwg gydag ymroddiad arbennig i Gymru a'i phobl.

"Cydymdeimlwn gyda'i wraig a'r teulu ar adeg mor drist."

'Cryfder'

Dywedodd Euryn Ogwen Williams, cyn Bennaeth Rhaglenni S4C: "Fo oedd fy nhad cyfryngol pan oeddan ni'n rhan o dîm rhaglen Y Dydd yn 1964.

"Mi oedd rhywun yn sylwi ar ryw gryfder yn ei gymeriad ... dyn y bobl oedd o, dyn y werin.

"Ei neges oedd bod angen i'r Dydd wasanaethu'r werin tra oedd Heddiw, rhaglen y BBC, yn un ar gyfer y dosbarth canol.

"Mi oedd rhyw sirioldeb o'i gwmpas, sirioldeb fyddai'n parhau drwy ei oes, hyd yn oed pan oedd y clefyd yn gwaethygu.

"Mi fyddai ei ysbryd, hyd yn oed pan oedd y clefyd yn llethol, yn troi at y cadarnhaol."