Cyhoeddi enw ac aelodau'r corff amgylcheddol newydd

  • Cyhoeddwyd
Bannau Brycheiniog
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tri corff presennol yn dod at ei gilydd i ofalu am amgylchedd Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru ydi enw'r corff newydd a fydd yn cymryd lle tri o gyrff amgylcheddol Cymru.

John Griffiths, Gweinidog Amgylchedd Cymru a gyhoeddodd yr enw.

Bydd y corff yn dod i fodolaeth wrth i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ddod at ei gilydd.

Fe wnaeth y gweinidog gyhoeddi ym mis Tachwedd y llynedd y bwriad i sefydlu un corff amgylcheddol newydd i Gymru.

Daw Cyfoeth Naturiol Cymru i rym ar Ebrill 1 2013.

Mae'r gwaith o ddylunio'r sefydliad newydd wedi dechrau.

"Yn ganolog i'r sefydliad hwn fydd yr ymrwymiad a'r ymroddiad i gyflawni'r weledigaeth am newid radical yn y modd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol er lles pobl Cymru," meddai Mr Griffiths.

'Hyder a sicrwydd'

"Rwy'n falch o gyhoeddi mai enw'r corff sengl newydd fydd Natural Resources Wales / Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Rwy'n credu bod yr enw hwn yn cyfleu cylch gwaith y corff newydd yn dda ac yn berthnasol i holl swyddogaethau cyfredol y tri chorff presennol.

"Mae'n enw a fydd yn rhoi hyder a sicrwydd i'n cwsmeriaid a rhanddeiliaid presennol."

Dywedodd iddo selio'i benderfyniad ar yr ymateb i'r ymgynghori helaeth gyda staff Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, eu cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi penodi 10 cyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.

Roedd 'na 185 o geisiadau ar gyfer y swyddi.

Y cyfarwyddwyr anweithredol yw:

• Dr Mike Brooker

•Y Parchedig Hywel Davies

•Dr Ruth Hall

•Dr Madeleine Havard

•Harry Legge-Bourke

•Andy Middleton

•Morgan Parry

•Nigel Reader

•Yr Athro Lynda Warren

•Syr Paul Williams

Mae manylion llawn am y 10, dolen allanol i'w cael ar wefan Llywodraeth Cymru.

"Rhyngddyn nhw, mae'r ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar ystod eang a maith o brofiad rheoli a fydd yn helpu'r corff newydd i fwrw ymlaen â'i waith o gynnal, gwella a defnyddio ein hadnoddau naturiol er budd pobl, amgylchedd ac economi Cymru, yn awr ac yn y dyfodol," meddai Mr Griffiths.

"Mae'r penodiadau hyn yn garreg filltir bwysig yn y broses o greu eich sefydliad newydd chi, yn dilyn penodiadau diweddar yr Athro Peter Matthews yn Gadeirydd, a'r Dr Emyr Roberts yn Brif Weithredwr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol