Cynnydd mewn achosion o'r pâs yng Nghymru ym mis Medi
- Cyhoeddwyd
Yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd gan Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, mae 'na gynnydd yn nifer achosion y pâs.
Yng Nghymru mae 'na 185 o achosion wedi eu cofnodi hyd yma eleni.
Y llynedd roedd 'na 37 achos ac wyth yn unig yn 2010.
Yn ôl yr asiantaeth, cafodd 1,322 o achosion eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Medi 2012.
Ar ddiwedd mis Medi fe wnaeth yr Adran Iechyd yng Nghymru a Lloegr gyhoeddi y bydd mamau beichiog yn cael cynnig brechiad i warchod eu babanod.
Dydi babanod ddim fel arfer yn derbyn y brechiad tan eu bod rhwng dau a phedwar mis oed.
"Rydym wedi bod yn bryderus am y cynnydd mewn achosion a bod 'na rai wedi marw," meddai Dr Mary Ramsay, pennaeth imiwnedd yr asiantaeth.
"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad i frechu merched beichiog."
Dywedodd na fyddai hyn yn cael effaith yn syth ac y dylai rhieni sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu.
Mae'r pâs yn effeithio ar bobl o bob oed gyda phlant ifanc ymhlith y rhai mwya' bregus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011