Olion y Rhyfel Oer i'w gweld o hyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae effeithiau'r Rhyfel Oer yng Nghiwba i'w gweld yng Nghymru dros 50 mlynedd yn ddiweddarach.
Mewn cynhadledd arbennig ym Mhowys dros y penwythnos mae arbenigwyr yn trafod effaith yr argyfwng ar wleidyddiaeth ryngwladol.
O hyd mae modd gweld bynceri i warchod rhag pelydredd niwclear mewn llefydd.
Roedd gan y llywodraeth, awdurdodau lleol, y frigâd tân a'r heddlu i gyd y rhain i gadw rheolaeth dros y wlad mewn argyfwng.
Un sydd wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio cyfrinachau'r bynceri yma yw Nick Catford, awdur Cold War Bunkers.
Eglurodd bod Prydain wedi ei rhannu i ranbarthau gwahanol, ac mewn rhyfel niwclear byddai Cymru felly wedi cael ei rheoli o fyncer ger yr orsaf trenau yng Nghyffordd Llandudno ac ym Mracla ger Pen-y-bont ar Ogwr.
"Roedd Bracla yn ffatri arfau yn ystod yr Ail Rhyfel Byd ac mae o i gyd o dan y ddaear," eglurodd Mr Catford.
"Mae'n archifdy erbyn hyn.
"Byddai'r rheolwyr efo awdurdod dros y rhanbarth i gyd, gan gynnwys yr hawl i saethu ysbeilwyr. Byddai bod o dan amodau rhyfel wedi bod yn hollol wahanol i gyfnod o heddwch."
Roedd gan y Warchodlu Sifil 1563 o fynceri ledled Prydain, yn barod ar gyfer timau o wirfoddolwyr a'r gwaith o fonitro'r sefyllfa ar ôl i'r taflegrau niwclear ffrwydro.
"Nid oedd yn bosib bod yn bellach na 10 milltir o'r bynceri monitro yma," eglurodd.
Defnydd newydd
"Roedd ganddyn nhw offer i wneud pethau fel mesur cyfeiriad y gwynt er mwyn gwybod ym mha gyfeiriad oedd y pelydredd yn lledaenu ac felly pa byrth awyr all fod ar agor.
"Gan mai gwirfoddolwyr oedden nhw, roedd yna wastad y posibilrwydd bydden nhw'n dewis dianc gyda'u teuluoedd os ddaeth rhybudd o ryfel niwclear. Felly roedd gan y fyddin yr hawl i orfodi nhw i fynd i'r bynceri mewn cyfnod o argyfwng.
"Byddai grwpiau o bedwar byncer wedi cysylltu â'i gilydd drwy linellau ffôn, ac un efo cyswllt radio i bencadlys y rhanbarth.
"Roedd un o'r pencadlysoedd yma yn Boras, Wrecsam.
"Mae'n stiwdio recordio erbyn hyn - dwi'n siŵr fod o'n lle gwych ar gyfer sain gan ei fod yn rhannol o dan y ddaear."
Mae nifer o'r 800 o fynceri sydd ar ôl ym Mhrydain heddiw ar dir amaeth.
"Nid oedd o werth yr arian i'r ffermwyr cael gwared â'r bynceri ar dir profa, felly mae cannoedd dal i fodoli," ychwanegodd.
"Mae'r rhai ar dir uchel wedi cael eu prynu gan gwmnïau ffonau symudol gan eu bod yn gwneud safleoedd da i fastiau ffon."