Gwynfor Evans a'i gyfraniad i sefydlu S4C
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos hon fe fydd BBC Cymru yn nodi pen-blwydd S4C yn 30 oed. I ddechrau mae Aled Scourfield wedi bod yn edrych ar gyfraniad allweddol un Cymro.
Ar ddiwedd ei yrfa wleidyddol, fe ddaeth un o fuddugoliaethau mawr Gwynfor Evans.
Pan gyhoeddodd llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher ei bod yn ffafrio rhannu darlledu Cymraeg rhwng dwy sianel yn hytrach na'r addewid gwreiddiol i sefydlu sianel benodedig Gymraeg, fe welodd y gwleidydd gyfle, nid yn unig i wrthwynebu'r penderfyniad hwnnw mewn modd trawiadol, ond hefyd i adfywio'r mudiad cenedlaethol wedi siom Refferendwm '79.
Wrth gyhoeddi ei fod yn barod i ymprydio hyd at farwolaeth er mwyn sicrhau sianel Gymraeg, fe roddwyd y Llywodraeth Geidwadol mewn sefyllfa amhosib.
Roedd yna bryder gwirioneddol y byddai yna drais difrifol petai Gwynfor Evans yn marw, ac yn wyneb y bygythiad hwnnw, fe ildiodd y llywodraeth ar Fedi 17, 1980, heb i Gwynfor golli'r un pryd bwyd.
Mae'r penderfyniad i fygwth ympryd yn parhau yn ddadleuol tu hwnt.
Yn ôl un o ffigurau amlycaf Plaid Cymru ar y pryd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, roedd yn fygythiad "anfoesol".
'Siomedig'
"Oherwydd ei bod yn fodd o weithredu'n uniongyrchol, o fygwth hunanladdiad ac o wneud hynny er mwyn dylanwadu ar y broses ddemocrataidd," meddai wrth raglen y Post Cyntaf.
Mae un o blant Gwynfor, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, yn dweud fod ei Dad yn siomedig fod llywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher wedi ildio mor gynnar yn wyneb ei fygythiad i ymprydio a hynny am fod y mudiad cenedlaethol yn ennill cefnogaeth yn sgil yr ymgyrch.
"Roedd e yn siomedig...
"Ei fwriad trwy'r adeg oedd adeiladu'r mudiad cenedlaethol... ac roedd yn gweld hyn fel cyfle i wneud hynny er mwyn dyfodol Cymru fel cenedl.
"Hynny oedd yn ei olygon trwy'r adeg."
Roedd ymweliad Archesgob Cymru, Syr Goronwy Daniel a'r Arglwydd Cledwyn hefyd yn allweddol wrth argyhoeddi'r Ysgrifennydd Cartref, Willie Whitelaw, fod angen newid polisi darlledu'r llywodraeth.
Serch hynny, mae cyfraniad Gwynfor Evans i'r broses o sefydlu S4C bellach yn rhan o chwedloniaeth Cymru.