Refferendwm Ewrop 'yn beryglus' medd Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Galwodd Carwyn Jones am ehangu datganoli i Gymru

Byddai refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn fêl ar fysedd grwpiau sydd am weld y DU yn cael ei rannu, medd Prif Weinidog Cymru.

Mewn araith ym Mhrifysgol LSE (London School of Economics) nos Iau, bydd Carwyn Jones yn dadlau dros gadw cenhedloedd y DU gyda'i gilydd, yn ogystal â pharhau i fod yn rhan o'r UE.

Nid dyma'r tro cyntaf i Mr Jones alw am y fath beth, ac yn gynharach eleni galwodd am drafodaethau brys am gyfansoddiad y DU cyn y bleidlais ar annibyniaeth yn Yr Alban yn 2014.

Nawr mae Carwyn Jones yn credu y bydd mynnu pleidlais ar aelodaeth Prydain ym Mrwsel yn cryfhau dadl y rhai sydd am weld annibyniaeth i Loegr, Yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon.

'Straen aruthrol'

Yn ei araith mae disgwyl iddo ddweud: "Dychmygwch refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd sy'n arwain at bleidlais i adael, gyda phleidlais Lloegr yn penderfynu'r bleidlais yn groes i ddymuniad gweddill y DU.

"Byddai hynny yn ein rhoi o dan straen aruthrol, ac yn fêl ar fysedd y rhai sydd am weld diwedd ar y Deyrnas Unedig.

"Mae'n eironi bod y rhai sy'n galw am refferendwm ar sail eu hymrwymiad i'r DU mewn gwirionedd yn peryglu dyfodol y DU ar ei ffurf bresennol.

"Ac fe fyddai hynny'n destun pryder mawr i'r mwyafrif o bobl Cymru."

Ehangu datganoli

Mewn arolwg barn yn gynharach eleni, dim ond 7% o boblogaeth Cymru oedd o blaid annibyniaeth, ond er bod Mr Jones yn erbyn annibyniaeth lawn, fe fydd yn ail-adrodd ei alwad am ehangu datganoli i Gymru.

"Rwyf am i'r DU ffynnu ac i Gymru chwarae rôl ddeinamig ynddi," meddai, "ond er mwyn i hynny ddigwydd rhaid i strwythur y DU addasu er mwyn hunaniaeth a dyheadau ei thrigolion.

"Mae datganoli trethu yn amlwg yn ymarferol mewn egwyddor, gan ei fod yn y broses o gael ei ddatganoli i'r Alban.

"Ond am resymau cyfansoddiadol ac ymarferol mae'r sefyllfa yng Nghymru yn fwy cymhleth.

"Byddai pobl Cymru yn disgwyl cael dweud eu dweud cyn iddyn nhw fod mewn sefyllfa lle y maen nhw'n talu graddfa dreth wahanol i rannau eraill o'r DU.

"Mewn geiriau eraill, dylid cynnal refferendwm cyn i bwerau trethu gael eu trosglwyddo i Gymru."

Bydd araith Carwyn Jones yn cael ei thraddodi yn Theatr Hong Kong, Prifysgol LSE, rhwng 6.15pm ac 8pm nos Iau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol