Marchnad Y Fenni: Gwrthod dadleuon ymgyrchwyr

  • Cyhoeddwyd
Defaid yn farchnad da byw Y FenniFfynhonnell y llun, BBC Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mae marchnad wedi bod ar y safle yn Y Fenni ers y 19eg ganrif

Mae barnwr Uchel Lys wedi gwrthod cwynion ymgyrchwyr yn erbyn Cyngor Sir Fynwy.

Ym mis Mehefin y llynedd fe roddodd y cyngor ganiatâd cynllunio i gwmni Optimisation Developments i ddatblygu'r safle yn Y Fenni, gan godi archfarchnad, llyfrgell a maes parcio ar y safle 1.9 hectar.

Mae'r penderfyniad i ddatblygu safle sydd wedi cael ei warchod yn gyfreithiol ers canol y 19eg ganrif wedi polareiddio barn yn lleol.

Roedd y grŵp KALM (Keep Abergavenny Livestock Market) wedi cwyno ac wedi sicrhau adolygiad barnwrol.

Gwrthod dadleuon

Ond yn yr Uchel Lys cyhoeddodd Mrs Ustus Nicola Davies ei dyfarniad.

"Mae'n anodd osgoi y casgliad fod yr her hon mewn gwirionedd yn ymosodiad ar rinweddau penderfyniad y cyngor wrth roi caniatad cynllunio.

"Mae beirniadaeth fforensig anaddas wedi ei hanelu at benderfyniadau er na chafwyd sylwadau yn y cyfnod pan gafodd gwrthwynebiadau eu nodi."

Gwrthododd ddadleuon y grŵp fod angen i'r cyngor gynnal asesiad amgylcheddol llawn cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Clywodd y llys fod y cyngor wedi cynnal ymgynghoriad manwl ac wedi ymchwilio'n ofalus i effeithiau economaidd a chymdeithasol y newid.

Bwriad y cyngor yw sefydlu adnodd newydd ger Rhaglan a chlywodd y llys fod y cyngor wedi ymrwymo i gadw marchnad anifeiliaid byw o fewn ffiniau'r sir am o leia' 50 mlynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol