Achub eryr fu'n sownd mewn coeden

  • Cyhoeddwyd
Eryr Aur
Disgrifiad o’r llun,

Gall adenydd eryr aur ymestyn ymhell dros chwe troedfedd

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân achub eryr aur oedd wedi mynd yn sownd mewn coeden ym Mhontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Bu'n rhaid torri'r goeden i lawr mewn proses a barodd am dair awr.

Cyn hynny, roedd yr heddlu wedi cyhoeddi rhybudd i'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus wedi i'r eryr ddianc o adardy.

Hedfanodd yr eryr benywaidd o'r fferm yn ystod nos Lun, Tachwedd 5, gyda'i hualau a lein yn dal yn sownd iddi, a'r hualau hynny a barodd iddi fynd yn sownd yn y goeden.

Cafodd y cyhoedd gyngor i beidio â mynd at yr aderyn, ond yn hytrach i ffonio'r heddlu ar 101 os fyddan nhw'n ei gweld hi.

Mae gan yr eryr led adenydd o 6'5" ac mae'n pwyso 16 pwys.

'Aderyn cryf a grymus'

Cyn iddi gael ei hachub, dywedodd Swyddog Bywyd Gwyllt ac Amgylchedd o Heddlu De Cymru, Cwnstabl Mark Goulding: "Mae'r eryr aur yn frid caeth ac yn gyfarwydd â phobl, ond mae'n aderyn cryf a grymus iawn ac ni ddylai unrhyw un fynd ati.

"Pan ddihangodd yr aderyn roedd newydd gael ei bwydo, felly mae'n debyg y bydd ond yn dangos ei hun pan fydd wedi blino ac eisiau bwyd, ac fe all hynny gymryd hyd at 10 diwrnod.

"Byddwn yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus ac i gysylltu â ni os fyddan nhw'n gweld yr eryr.

"Er nad yw'r eryr yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd, peidiwch da chi a cheisio'i ddal.

"Dim ond pobl sy'n trin adar yn broffesiynol ddylai fynd at yr eryr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol