Sicrwydd am driniaeth i gleifion canser Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Fydd 'na ddim toriadau i wasanaethau canser Ysbyty Bronglais Aberystwyth yn ôl penaethiaid iechyd er y bydd oncolegydd yn treulio diwrnod yr wythnos yn gweithio yng Nghaerfyrddin.
Mae'r oncolegydd ym Mronglais yn llenwi swydd wag yn Ysbyty Glangwili tra bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn recriwtio rhywun ar gyfer y swydd.
Dywedodd y bwrdd iechyd na fydd cleifion allanol ym Mronglais yn gorfod teithio i Gaerfyrddin am driniaeth.
Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i drafod y mater.
Mae e hefyd wedi ysgrifennu at brif weithredwr y bwrdd iechyd wedi cwynion gan etholwyr ac aelodau ymgyrch aBer i gadw gwasanaethau ym Mronglais.
550 o ymgyrchwyr
Ym mis Chwefror fe wnaeth 550 o ymgyrchwyr oedd yn poeni am ddyfodol yr ysbyty brotestio tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd.
Mae staff a chleifion wedi mynegi pryder hefyd y gallai rhai o'r gwasanaethau symud o Geredigion i Gaerfyrddin fel rhan o gynlluniau ad-drefnu'r bwrdd.
Ond mae'r bwrdd yn dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Nid yw'r gwasanaeth oncolegol ym Mronglais wedi ei symud ac ni fydd unrhyw gleifion ychwanegol yn cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili.
"Mae un o'n hymgynghorwyr, sydd fel arfer ym Mronglais, yn cefnogi'r gwasanaeth yng Nglangwili un diwrnod yr wythnos, gan alluogi cleifion yno i elwa o'r arbenigedd.
"Bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu ymhen deufis pan fyddwn wedi llenwi'r swydd wag yn Ysbyty Glangwili."
Ond dywedodd Mr Williams bod y newid i batrwm gwaith yr oncolegydd am ddiwrnod yr wythnos wedi digwydd heb unrhyw rybudd na chyhoeddiad i'r cyhoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2012