Alfreton 4-3 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Er iddyn nhw golli, Casnewydd yn dal ar frig y tabl

Alfreton 4-3 Casnewydd

Colli oedd hanes Casnewydd oddi-cartref nos Wener yn erbyn Alfreton.

Daw hyn wedi eu buddugoliaeth nos Fawrth o 6-2 yn erbyn Caergrawnt ar Rodney Parade.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi chwe munud, Nathan Arnold yn ergydio o du allan i'r cwrt.

Sgoriodd Paul Clayton wedi 17 munud i roi'r tîm Cartref ymhellach ar y blaen.

Fe lwyddodd Michael Smith i roi gobaith i'r ymwelwyr wedi 35 munud ond fe gafodd Alfreton gic o'r smotyn wedi i David Pipe droseddu ar Ben Tomlinson.

Llwyddodd Dan Bradley gyda'r gic i roi'r tîm cartref yn gyfforddus 3-1 ar yr hanner.

Ond fe wnaeth Yr Alltudion daro'n ôl yn yr ail hanner wrth i Aaron O'Connor sgorio ar yr awr.

Daeth pedwaredd gôl Alfreton gan Clayton 10 munud yn ddiweddarach.

Ac fe ddaeth ail gôl i O'Connor funud cyn y 90 munud.

Roedd 'na chwe munud o amser ychwanegol ond doedd hynny ddim yn ddigon i'r ymwelwyr ganfod cefn y rhwyd a sicrhau pwynt.

Er iddyn nhw golli mae Casnewydd yn parhau ar frig y tabl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol