Leanne Wood am ymgeisio am etholaeth yn Etholiad Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Arweinydd Plaid Cymru yn ymgeisio mewn etholaeth yn yr Etholiad Cynulliad yn lle bod ar restr ranbarthol.
Yn narlith flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth mae Leanne Wood wedi dweud bod yr etholaeth yn fater i'w drafod.
Mae hefyd, meddai, yn ddibynnol ar "benderfyniadau aelodau llawr gwlad".
Ar hyn o bryd hi yw un o'r pedwar Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru.
Bydd rhaid iddi drechu mwyafrif sylweddol Llafur cyn llwyddo mewn etholaeth yn 2016.
Yn Y Rhondda a Chwm Cynon roedd Plaid Cymru tua 6,500 o bleidleisiau y tu ôl i Lafur yn 2011.
Trawsnewid
Mae Caerffili wedi bod yn sedd darged hanesyddol i Blaid Cymru ond yn yr etholiad diwethaf cafodd Llafur dros 5,000 yn fwy o bleidleisiau.
Yn ôl rhai yn y blaid, mae penderfyniad yr arweinydd yn rhan o strategaeth sy'n anelu at sicrhau y bydd yn blaid mewn llywodraeth ymhen pedair blynedd.
Cyn yr etholiad ar Fai 5 2016 mae Ms Wood yn bwriadu cynnal trafodaethau rhwng y blaid a'r etholwyr mewn "maniffesto-wici" fydd yn cynnwys syniadau pobl am sut i drawsnewid y wlad.
Mae hi wedi dweud y bydd ei phlaid yn creu "cyfnod newydd o gyfranogi democrataidd" i wleidyddiaeth Cymru.
"Rwyf eisiau i ni gael ymdeimlad o gyffro ynghylch sut y gall ein Senedd ni ein hunain fod," meddai.
"Rwyf eisiau ysbrydoli pobl o bob carfan o gymdeithas i gynnig eu henwau i sefyll ac i wasanaethu.
"Dyna pam fy mod yn gwahodd pobl o bob cwr o Gymru i wneud cais i ymuno â'n rhestr ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Ewrop, San Steffan a'r Cynulliad.
"Allwn ni ddim adnewyddu'n democratiaeth o'r canol ... y gwreiddiau sy'n bwysig.
"Ni fydd unrhyw weledigaeth, waeth pa mor fawreddog, am ddyfodol Cymru yn gweithio os yw Caerdydd, Llundain neu'r lleuad yn ei gwthio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012