Leanne Wood: Cyfnod 'ailadeiladu' i Blaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i Blaid Cymru ailadeiladu yn ôl yr arweinydd Leanne Wood wedi i'r blaid ddioddef "noson anodd" yn dilyn yr etholiadau lleol.
Collodd Plaid Cymru arweinyddiaeth Cyngor Caerffili yn dilyn adfywiad y Blaid Lafur yng Nghymoedd y De.
Methodd Plaid Cymru ag ennill rheolaeth o Geredigion er iddynt ennill 19 sedd, un yn llai na 2008.
'Ysbeidiau heulog'
Ond Plaid Cymru yw'r blaid gyda'r mwyaf o seddi a llwyddon nhw i ddisodli arweinydd Annibynnol y cyngor, Keith Evans, ddydd Iau.
Yng Ngwynedd collodd Plaid Cymru reolaeth lwyr o'r cyngor am eu gan ennill 37 o 75 sedd ddydd Gwener.
Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf yn Sir Gaerfryddin, ond heb fwyafrif.
Dywedodd Ms Wood ar wefan Twitter: "Noson anodd i Blaid Cymru. Hapus i weld bod rhai cynghorwyr arbennig wedi eu hail-ethol.
"Mae'n flin gen i weld rhai pobl yn mynd. Amser i ailadeiladu yn awr."
Cyn yr etholiad, honnodd Plaid Cymru nad oedd hwn yn brawf cynnar i Ms Wood gymrodd yr awenau fel arweinydd y blaid ar Fawrth 15 eleni.
Penderfynodd ei rhagflaenydd, Ieuan Wyn Jones, rhoi'r gorau i'r swydd wedi i'r blaid ddioddef canlyniadau gwael yn Etholiad y Cynulliad y llynedd.
Dywedodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, ei bod hi wedi bod yn noson "gymysg" i'r blaid.
"Rwy'n byw mewn ward sy'n cael ei gynrychioli gan gynghorwyr Plaid Cymru am y tro cyntaf," meddai wrth BBC Cymru.
"Ond i fod yn deg, roedd y canlyniadau yn debyg i'r tywydd, glaw mân yn bennaf gydag ysbeidiau heulog ar adegau."
Ychwanegodd fod y blaid wedi mwynhau "rhai llwyddiannau" ond ei bod hi wedi bod yn 'noson siomedig' ar y cyfan".
Yn ôl Mr Thomas ni allai Ms Wood dderbyn y bai am y canlyniad siomedig am ei bod hi wedi bod yn ei swydd am ddim ond chwe wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012
- Cyhoeddwyd4 Mai 2012