Gwrthod fferm wynt?

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion cynllunio yn argymell gwrthod caniatâd cynllunio i gynllun dadleuol i godi fferm wynt 21 tyrbin yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y pwyllgor cynllunio'n trafod cais i godi'r tyrbinau ar Fynydd Llanllwni ger Llanybydder ddydd Mawrth nesaf.

Mae'r safle o fewn ardal Tan 8.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi Tan 8, cyfyngu datblygiadau ffermydd gwynt enfawr i saith ardal benodol yng Nghymru.

Cwmni RES sy'n gwneud y cais cynllunio.

Mae'r cyngor wedi derbyn 370 o lythyrau yn gwrthwynebu'r cais i godi'r tyrbinau ar dir fferm Bryn Llywelyn.