66 wedi cysylltu â swyddfa'r Comisiynydd Plant

  • Cyhoeddwyd

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud bod dros 60 wedi cysylltu â'i swyddfa ers wythnos a hanner er mwyn rhoi gwybod am achosion posib' o gam-drin.

Dywedodd fod bron hanner y rheini'n ymwneud â'r ymchwiliad gwreiddiol i gam-drin mewn cartrefi plant yn y gogledd ond bod achosion eraill, dau ohonyn nhw o Loegr.

Mae'r comisiynydd, Keith Towler, wedi dweud iddo dderbyn copi o Adroddiad Jillings, yr un yr oedd Cyngor Clwyd wedi ei gomisiynu yn 1990au.

Ni chafodd ei wneud yn gyhoeddus ar y pryd.

Pryder

Yn y cyfamser, dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, fod pedwar AC wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi iddyn nhw glywed y byddai rhai plismyn yn edrych yn fanwl ar ffeiliau honiadau am gam-drin rhywiol mewn cartrefi gofal yn y gogledd.

Y pryder, meddai, oedd ei bod yn anaddas i'r heddlu fod yn rhan o ymchwiliad yn wyneb honiadau blaenorol eu bod yn "celu gwybodaeth".

Dywedodd Mr Roberts y byddai'r mater yn cael ei godi gyda Llywodraeth San Steffan.

Mae'r heddlu wedi dweud bod y Prif Gwnstabl, Mark Polin, wedi ymateb i lythyr y pedwar AC.

"Does dim sylw arall," meddai llefarydd.