Meesham: 'Peidiwch aros yn dawel'

  • Cyhoeddwyd
Cartef gofal Bryn Estyn yn 1992Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cartef gofal Bryn Estyn yn 1992

Mae Steve Messham, y dyn oedd yn credu ar gam fod arglwydd Ceidwadol wedi ei gam-drin pan oedd yn blentyn, yn dweud ei fod yn gobeithio na fydd yr helynt diweddar yn atal dioddefwyr eraill o ogledd Cymru rhag adrodd eu stori.

Mewn cyfweliad ar raglen BBC Cymru Week In Week Out dywed ei fod yn gobeithio ymddiheuro'n bersonol i'r Arglwydd McAlpine.

Yr wythnos ddiwethaf gwadodd yr arglwydd yn gyhoeddus y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Ymddiheruo'n ddiamod

Roedd y cyhuddiadau ar safleoedd gwefannau cymdeithasol wedi adroddiad nad oedd yn dal dŵr ar raglen Newsnight y BBC.

Mae Stephen Messham a'r BBC wedi ymddiheuro yn ddiamod i'r arglwydd.

Dywed Mr Meesham: "Rhaid i bobl ddeall ei fod yn gamgymeriad gonest ar fy rhan i.

"Ond rydych yn gwybod mae'r prif bwnc yma yw'r cam-drin oedd yn digwydd a'r angen i sicrhau cyfiawnder, cyfiawnder nid yn unig i fi ond i bawb, a'r rhai sydd wedi lladd eu hunain.

"Byddwn yn dweud wrth bobl i ddod ymlaen a siarad - fe fydd pobl yn gwrando, mae'r Asiantaeth Troseddau cenedlaethol yn ymchwilio. Plîs dewch a siarad â nhw."

Digon eang?

Mae dau ymchwiliad newydd wedi dechrau i'r honiadau o gam-drin yn y gogledd yn y 70au a'r 80au.

Bydd un yn ymchwilio i sut y deliodd Heddlu'r Gogledd â'r ymchwiliad.

Bydd yr ail ymchwiliad yn penderfynu a oedd amodau gorchwyl Ymchwiliad Waterhouse i achosion cam-drin yng Ngogledd Cymru yn ddigon eang.

Er eu bod yn croesawu'r diddordeb yn y stori, mae dioddefwyr eraill yn dweud bod yr holl beth yn dwyn atgofion poenus.

Roedd Andrew Teague o Abertawe yn un o'r rhai gafodd ei gam-drin yn rhywiol pan oedd yng nghartre' Bryn Estyn ger Wrecsam yn y 70au hwyr.

'Hunllefau'

Cafodd y rhai wnaeth ei gam-drin eu carcharu am droseddau yn erbyn plant eraill.

Dywed wrth y rhaglen: "Dydy e ddim fel switsh golau - eich bod yn gallu pwyso cyn i'r holl beth ddiflannu ... dwi ddim yn meddwl y bydd hynny fyth yn digwydd.

"Rwy'n cael hunllefau am y peth. Mae'n rhywbeth sy'n dychwelyd ...

"Mae angen diwedd ar y stori. Os yw'r holl bobl hyn yn ymwneud â'r peth, mae angen dod o hyd iddyn nhwt, sortio'r peth a chau pen y mwdwl."

Dywed Comisiynydd Plant Cymru Keith Towler ei fod yn optimistaidd y bydd yr ymchwiliadau newydd yn dwyn ffrwyth.

Mae BBC Cymru'n deall bod 40 o bobl wedi cysylltu â'i swyddfa er mwyn trafod cam-drin - ac nad yw rhai wedi rhoi tystiolaeth o'r blaen.

Dywed y comisiynydd: "Mae yna nifer o ddatblygiadau calonogol ers Ymchwiliad Waterhouse ond rwy'n teimlo bod rhai cwestiynau yn parhau heb eu hateb ac mae angen eu hateb.

"... os yw pobl yn dod aton ni a chyflwyno tystiolaeth, mae dyletswydd arnon ni barchu'r hawl y dylai eu llais gael ei glywed."

Week in Week Out, BBC Cymru, 10,35pm