Cyfle i brynu tir ym Mrycheiniog

  • Cyhoeddwyd
Tir Comin EpyntFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr asiant, mae'r tir i gyd ar werth am £145.000.

Mae 2,500 aceri o dir comin ar werth ym Mrycheiniog.

Dyma'r trydydd tro yn unig mewn 300 mlynedd i Dir Comin Epynt ddod ar werth i'r cyhoedd.

Mae'r tir ger maes hyfforddi Pontsenni wedi ei rhannu'n bedair.

Bydd cynigion yn cael eu derbyn ar gyfer y 2,500 acer i gyd, neu'r pedair rhan ar wahân.

Mae Tir Comin Epynt wedi ei gofrestru'n dir amaeth gradd 5.

Mae'n bosib bydd yna ddiddordeb i adeiladu ffermydd gwynt yno oherwydd uchder y tir a'r gwyntoedd cryfion.

Bydd angen caniatâd cynllunio cyn gwneud hyn.

Mae gan borwyr yr hawl i bori defaid, ceffylau a merlod ar y tir.

Mae bron i 230 o borwyr yn cymryd mantais o'r hawliau yma.

'Digwyddiad prin'

Dywedodd Frandis Chester-Master, cyfarwyddwr y cwmni asiant sy'n gwerthu'r tir, "Mae o'n ddigwyddiad prin iawn i dir o'r fath gael ei farchnata'n gyhoeddus.

"Gan ei fod o ddiddordeb i ffermwyr lleol a datblygwyr ffermydd gwynt, nid yw'n annisgwyl ein bod yn barod wedi derbyn cryn dipyn o ddiddordeb a chynigion.

"Byddem felly yn annog unrhyw un arall â diddordeb i gofrestru'r diddordeb cyn gynted ac sy'n bosib."

Mae Dr Lance Mytton o grŵp Cadwraeth Ucheldir Powys, sydd wedi ymgyrchu yn erbyn tyrbinau gwynt yn yr ardal, yn gobeithio na fydd y tir yma yn cael ei ddefnyddio i'r pwrpas hwnnw.

"Byddem fel grŵp yn erbyn rhoi unrhyw fath o dyrbinau ar dir comin," meddai.

"Mae o'n sicr wedi bod yn bolisi yn y gorffennol ym Mhowys i amddiffyn tir comin a'i gadw yn dir agored er lles pawb.

"Felly nid ydwyf yn poeni'n ormodol os bydd y fath fenter yn cael caniatâd cynllunio."

Dywedodd Kate Ashbrook, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Mannau Agored, y byddai'r corff cadwraeth yn brwydro yn erbyn unrhyw gynlluniau i ddatblygu'r tir.

'Maen tramgwydd'

"Mae'r tir comin hwn yn rhan allweddol o dirlun Cymru," meddai.

"Rydym yn pryderu y bydd y tir yn cael ei hysbysebu ar gyfer datblygu fferm wynt gallai olygu bod prynwyr posib yn meddwl y gallan nhw wneud elw o'r tir comin hwn.

"Ond mae 'na sawl maen tramgwydd cyn datblygu tyrbinau gwynt ar dir comin.

"Mae angen caniatâd cynllunio ac mae'n rhaid i ddatblygwyr gael caniatâd y porwyr a Gweinidog yr Amgylchedd ar gyfer darparu tir addas yn lle'r tir comin, sydd wrth gwrs, yn amhosib."

Yn ôl yr asiant, mae'r tircomin ar werth am £145,000.

Roedd y comin unwaith yn rhan o Stad Tredegar.

Prynodd y perchennog presennol y tir ym 1984 a dyma'r trydydd tro yn unig i'r tir fynd ar y farchnad er 1700.