Record newydd yn cael ei osod ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd

Yismaw Dillu yn croesi'r linell ac yn torri record y dynion ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Wrth i filoedd gymryd rhan yn ras Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul gyda thorfeydd enfawr drwy gydol y brifddinas mae record newydd wedi ei osod.
Cafodd ras elît y dynion ei hennill gan Yismaw Dillu, 20 o Ethiopia, a gwblhaodd y cwrs mewn 59 munud 23 eiliad - sy'n curo'r hen record gan 7 eiliad.
Miriam Chebet, 23 o Kenya, enillodd ras elît y merched, a hynny mewn 1 awr, 6 munud a 37 eiliad.
A Callum Hall o Sir Durham enillodd y ras cadair olwyn gydag amser o 53 munud 46 eiliad.

Roedd disgwyl y nifer fwyaf erioed o redwyr i gymryd rhan eleni
Roedd disgwyl y nifer fwyaf erioed o redwyr i gymryd rhan yn y ras 13.1 milltir ddydd Sul.
Cafodd nifer fawr o ffyrdd eu cau ar draws y brifddinas wrth i'r ras ddechrau ar Stryd y Castell am 10:00.
Roedd amrywiaeth o DJs, bandiau a chorau yn perfformio ar hyd y cwrs er mwyn darparu adloniant i'r rhedwyr a'r cefnogwyr.
Mae poblogrwydd y ras yn mynd o nerth i nerth - eleni fe werthodd y tocynnau i gyd o fewn 12 awr - ac am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf mi fydd system balot yn cael ei defnyddio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl