Fferm wynt 'fwya'r byd': Ymgynghoriad cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyntaf o nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus i drafod cynllun fferm wynt oddi ar arfordir Ynys Môn, yr un fwya' yn y byd, wedi ei gynnal.
Roedd yn Neuadd Goffa Amlwch rhwng 11am a 7pm ddydd Gwener.
Cyflwynodd Celtic Array eu cynllun cychwynnol, dolen allanol ar gyfer Fferm Wynt Rhiannon i Arolygiaeth Gynllunio'r llywodraeth yn gynharach eleni.
Byddai gan y fferm rhwng 147 a 440 o dyrbinau ac yn cynhyrchu hyd at 2.2 GW o ynni, sef y fwyaf yn y byd o ran cynnyrch ynni.
Ar ei agosaf, byddai'r fferm wynt 19 km o arfordir Ynys Môn a 34km o Ynys Manaw, ac fe fyddai'n cael ei chysylltu gyda'r tir mawr a'r Grid Cenedlaethol ar Ynys Môn.
Ymgynghoriad
Cyn i'r cynllun gael mynd yn ei flaen, mae angen i'r Arolygiaeth Gynllunio gymeradwyo'r cynllun a bydd angen sêl bendith Llywodraeth Cymru ar gyfer rhai o'r elfennau.
Bydd angen i Gyngor Sir Ynys Môn gymeradwyo gosod yr offer ar y tir.
Mae BBC Cymru ar ddeall nad oes unrhyw benderfyniad ariannol wedi ei wneud hyd yn hyn ac nad oes unrhyw gais cynllunio wedi cael ei gyflwyno.
Mae'r rhan hon o Fôr Iwerddon yn un o 12 safle yn y DU allai weld fferm wynt yn cael ei chodi yn y môr dros y degawd nesaf.
Y disgwyl yw y bydd y cwmni - sy'n fenter ar y cyd rhwng Centrica a Dong Energy - yn cyflwyno cynlluniau manwl erbyn diwedd 2013 gyda'r nod o gychwyn y gwaith yn 2017.
Effeithiau posibl
Adroddiad Cwmpasu sydd wedi ei gyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio i gael eu barn ynghylch yr effeithiau posibl y dylid rhoi sylw iddynt yn yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, a fydd yn rhan allweddol o'r cais.
Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio ddyletswydd i ymgynghori'n eang gyda chyrff statudol cyn gwneud penderfyniad.
Does dim penderfyniad pendant wedi ei wneud am leoliad y seilwaith ar y tir eto, megis lleoliad yr is-orsaf a llwybr(au) y ceblau ar y tir.
Mae Celtic Array yn cynnal trafodaethau gyda'r Grid Cenedlaethol ynghylch pwyntiau cysylltu posibl i'r rhwydwaith trosglwyddo trydan presennol yn y DU ar dir mawr y DU, a disgwylir y bydd y cysylltiad yn cael ei leoli ar Ynys Môn.
Bydd y seilwaith ar y tir yn destun gweithgarwch ymgynghori cyhoeddus a chais cynllunio i Gyngor Sir Ynys Môn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012