Ymateb gwleidyddol i Adroddiad Silk
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn dweud y byddai datganoli pwerau trethu a benthyca i Gymru yn rhoi grym i'r etholwyr a Llywodraeth Cymru.
Bydd hefyd yn cynyddu cyfrifoldeb.
Cafodd y comisiwn ei sefydlu gan y cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
Y nod, o dan yr arweiniad cyn-glerc y Cynulliad Cenedlaethol Paul Silk, oedd ystyried a ddylai gweinidogion Cymru fod yn fwy atebol am yr arian y maen nhw'n ei wario.
Wrth ymateb i'r adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Llun, Grym a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i gryfhau Cymru, dolen allanol, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Cymru, y bydd y llywodraeth yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb yn llawn yn ddiweddarach.
"Dwi'n ddiolchgar iawn i Paul Silk a'r comisiwn am eu gwaith caled.
"Maen nhw wedi casglu barn o bob cwr o Gymru ac wedi sicrhau bod yr argymhellion yn rhai unfrydol o fewn y comisiwn a oedd yn cynrychioli'r pedair prif blaid yn y Cynulliad."
'Newidiadau cynhwysfawr'
Ychwanegodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, eu bod yn "edrych ymlaen at adolygu'r argymhellion"
"Fe fyddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r holl bleidiau yn y Cynulliad i gyflwyno canlyniad uchelgeisiol sy'n ateb anghenion pobl Cymru orau."
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru hefyd wedi croesawu'r adroddiad sy'n "argymell newidiadau cynhwysfawr".
"Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys argymhellion hynod bwysig y mae cynrychiolwyr y pedair plaid wleidyddol wedi gallu cytuno arnynt, ac sy'n cyd-fynd yn dda â'n safbwyntiau ni ynghylch trywydd y diwygiadau ariannol i'r dyfodol.
"Rwy'n arbennig o falch o weld bod y Comisiwn wedi cefnogi datganoli pwerau benthyca er mwyn helpu i ariannu buddsoddiadau - mae hynny'n hanfodol er mwyn rhoi'r arfau i ni i hybu economi Cymru.
"Rwyf wedi dadlau ers tro y byddai'n rhaid cynnal refferendwm cyn i'r pwerau i amrywio cyfraddau treth incwm gael eu datganoli, ac rwy'n falch o weld bod y Comisiwn yn rhannu'r safbwynt hwnnw.
"Byddwn yn edrych yn ofalus ar y cynigion i symud i gyfeiriad datganoli rhai pwerau treth incwm - ar yr amod mai pobl Cymru fyddai â'r gair olaf."
Dywedodd Paul Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar Gyllid yn y Cynulliad, eu bod yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod a rhywfaint o gyfrifoldeb am godi peth o'r arian sy'n cael ei wario ganddyn nhw a bod yn atebol i bobl Cymru.
"Fe fydd datganoli peth pwerau trethu a'r gallu i fenthyca yn rhoi mwy o rym i'r llywodraeth a gwneud Cymru yn fwy o atyniad i fusnesau."
'Gwella bywydau'r Cymry'
Dywedodd Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bod gweledigaeth ei phlaid ar gyfer datganoli yn cynnwys sicrhau bod gan y Cynulliad amrywiaeth o bwerau i wella bywydau pobl Cymru.
"Rydym yn falch o weld cynnwys yr adroddiad sy'n rhoi cefnogaeth i'r syniad o godi trethi.
"Mae'n allweddol nawr bod llywodraethau Cymru a San Steffan yn gweithio'n gyflym i weithredu'r argymhellion."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion ariannol, Ieuan Wyn Jones, eu bod yn falch bod y comisiwn wedi argymell trosglwyddo cyfrifoldeb pwerau rhai trethi i Gymru.
"Cred Plaid Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru gael pwerau dros drethi, megis treth incwm a threthi busnes, gan gynnwys hefyd dreth gorfforaeth, fel y gallwn dyfu ein heconomi a chreu mwy o swyddi.
"Ar hyn o bryd, does gennym ni ddim neu fawr ddim lle i symud y tu mewn i gyfyngiadau'r grant bloc.
"Rydym yn falch fod Comisiwn Silk wedi argymell trosglwyddo cyfrifoldeb dros rai pwerau treth incwm i Lywodraeth Cymru.
"Mae Plaid Cymru yn awyddus i weithio ochr yn ochr â phleidiau eraill a chymdeithas sifil yng Nghymru i roi mwy o lais i Lywodraeth Cymru a mwy o gyfrifoldeb i gyflawni dros Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012